Os ydych chi'n rhedeg busnes metel sgrap neu fusnes arbed ceir yn Sir Ddinbych mae'n rhaid i chi gael trwydded gan y cyngor.
Ers newid y gyfraith ym mis Hydref 2013, mae gweithredu heb drwydded bellach yn drosedd.
Pa fath o drwydded sydd arnaf ei hangen?
Mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded:
- os ydych chi'n prynu neu'n gwewrthu metel sgrap (p'un ai yw'n cael ei werthu yn y ffurf y cafodd ei brynu neu beidio)
- os ydych chi'n arbed rhannau o gerbydau modur i'w hailddefnyddio, ac yn gwerthu gweddill y cerbyd fel sgrap
Mae dau fath o drwydded - trwydded safle a thrywdded casglu.
Trwydded safle
Mae trywdded safle yn caniatáu i chi fasnachu fel deliwr metel sgrap ar unrhyw safle, neu fwy nag un safle, yn Sir Ddinbych. Mae'n rhaid i chi enwi rheolwr safle ar gyfer pob safle.
Os oes arnoch chi eisiau masnachu mewn sir arall, bydd arnoch angen gwneud cais am drwydded i awdurdod lleol yr ardal honno hefyd.
Trwydded casglu
Mae trwydded casglu yn eich galluogi i fasnachu fel casglwr symudol, a gwerthu neu waredu metel yn Sir Ddinbych. Mae hyn yn cynnwys gwerthu a chael gwared ar rannau o gerbydau modur. Nid yw trwydded casglu yn eich awdurdodi i weithredu safle.
Mae trwydded casglu a gyhoeddir gennym ni ond yn eich caniatáu i weithredu fel casglwr yn Sir Ddinbych. Os oes arnoch chi eisiau casglu mewn mwy nag un ardal awdurdod lleol, bydd arnoch chi angen gwneud cais am drwydded casglu i bob cyngor ar wahân.
Fedrwch chi ddim dal trywdded safle a thrwydded casglu yn yr un awdurdod lleol, ond gallwch dderbyn trwydded safle ar gyfer un awdurdod a thrwydded casglu ar gyfer awdurdod arall.
Am ba hyd y mae'r trwyddedau'n para?
Bydd y trwyddedau yn para 3 blynedd.
Sut ydw i'n gwneud cais am drwydded metel sgrap?
I wneud cais am drwydded, rhaid i chi lenwi ffurflen gais a chynnwys:
Ffurflenni
Faint mae'n gostio?
- Caniatáu trwydded safle sy’n para 3 blynedd: £343
- Adnewyddu trwydded safle (3 blynedd): £263
- Caniatáu trwydded casglu sy’n para 3 blynedd: £192
- Adnewyddu trwydded casglu (3 blynedd): £148
- Amrywio trwydded Safle/Casglu: £69
Sut y gallaf dalu?
Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig.
Talu drwy BACS
Mae ein manylion BACS yn:
- Banc: Natwest, 5 Queen Street, y Rhyl, LL18 1RS
- Cod Didoli: 54 41 06
- Rhif y Cyfrif: 22837469
- Enw’r Cyfrif: Cronfa Sirol Cyngor Sir Ddinbych
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cyfeirnod pan fyddwch chi’n gwneud taliad h.y. yn nodi enw/eiddo/rhif trwydded (os ydych chi’n ei wybod) ynghyd efo Cod Cost. Unwaith y bydd taliad wedi'i wneud, anfonwch gopi o'r taliad at trwyddedu@sirddinbych.gov.uk.
Codau cost
Rhowch y cod cost 3476-40096 wrth wneud taliad trwydded Safle Metal Sgrap.
Rhowch y cod cost 3476-40097 wrth wneud taliad trwydded Casglwr Metel Sgrap.
Gall methu â darparu’r cod cost priodol neu enw’r eiddo achosi oedi wrth brosesu eich cais.
Mwy gwybodaeth
Bydd manylion cyfyngedig pawb sy’n dal trwydded yn cael eu rhoi ar y gofrestr gyhoeddus ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (gwefan allanol).