Tai Aml-feddiannaeth

Tŷ aml-feddiannaeth yw eiddo a gaiff ei rentu i o leiaf tri o bobl nad ydynt o’r un 'aelwyd' (e.e. teulu).

Gynllun Trwyddedu Ychwanegol

Ar 28 Gorffennaf 2020, cymeradwyodd y Cabinet Gynllun Trwyddedu Ychwanegol (Tai Amlfeddiannaeth) Cyngor Sir Ddinbych 2020. Mae ardal Y Rhyl wedi ei hailddynodi ar gyfer Trwyddedu Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth ac mae’r cynllun hefyd wedi ei ymestyn i gynnwys Dinbych, Llangollen a Phrestatyn. Bydd y cynllun yn cychwyn ar 1 Rhagfyr 2020 ac yn rhedeg am uchafswm o bum mlynedd, tan 30 Tachwedd 2025. Gall gopi o’r hysbysiad cyhoeddus sy’n cadarnhau’r dynodiadau ei ddarganfod yma:

Tai Amlfeddiannaeth A Deddf Tai 2004 Rhybudd Cyhoeddus Am Y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol

Manylion y mathau o eiddo a effeithir gan y cynllun a sut i wneud cais

Mae gwahanol fathau o eiddo dai aml-feddiannaeth: y rhai sy'n rhannu cyfleusterau fel yr ystafell ymolchi a'r gegin; fflatiau hunangynhaliol, a'r rhai sy'n cynnwys cymysgedd o unedau a rennir ac unedau hunangynhaliol.

Rhaid i dai aml-feddiannaeth sy'n dod o dan y Cynllun Trwyddedu Gorfodol fod â thrwydded: 

  • os oes ganddynt dri llawr neu fwy, AC 
  • os oes pum tenant neu fwy yn byw ynddynt, AC 
  • os ydynt yn llunio mwy nag un aelwyd 
  • gyda chyfleusterau a rennir neu hebddynt (ystafell ymolchi a chegin)

Dan ein Cynllun Trwyddedu Ychwanegol, mae meini prawf rhywfaint yn wahanol ar gyfer eiddo yn y Dinbych, Llangollen, Prestatyn a Rhyl. Rhaid i eiddo tai aml-feddiannaeth yn y Dinbych, Llangollen, Prestatyn a Rhyl l fod â thrwydded:

  • os oes tri thenant neu fwy yn byw yno, AC 
  • os ydynt yn llunio mwy nag un aelwyd, gyda chyfleusterau a rennir neu hebddynt (ystafell ymolchi a chegin)
  • os ydynt yn llunio mwy nag un aelwyd cwbl hunangynhaliol, ond nad ydynt yn bodloni Rheoliadau Adeiladu 1991, A lle mae llai na dau draean o’r fflatiau hunangynhaliol yn cael eu meddiannu gan y perchennog.

Sut i wneud cais am drwydded tŷ aml-feddiannaeth

Cyfrifoldeb y landlord neu reolwr yr eiddo yw gwneud cais am drwydded tŷ aml-feddiannaeth.

Cyn i chi gwblhau’r cais, darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd hyn. 

Trwyddedau Tai Aml-feddiannaeth nodiadau cyfarwyddyd (PDF, 211KB) 

I wneud cais am drwydded tŷ aml-feddiannaeth, llenwch y ffurflen hon a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Ffurflen gais trwydded Tai Aml-feddiannaeth (PDF, 686KB) 

Sylwch fod y ffurflen gais a'r nodiadau cyfarwyddyd ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.  Bydd fersiynau Cymraeg ar gael yn fuan.

Mae trwydded tŷ aml-feddiannaeth yn ddilys am hyd at 5 mlynedd. Bydd angen i chi wneud cais am drwydded newydd ar ddiwedd y cyfnod hwn.

Faint mae'n ei gostio?

Ceisiadau Newydd

Mae trwyddedau yn para am 5 mlynedd ac mae’r costau yn seiliedig ar nifer y lloriau sydd yn yr adeilad a nifer yr ystafelloedd y gellir byw ynddynt. Byddai ystafell y gellir byw ynddi yn fflat un ystafell, ystafell fyw ar wahân neu ystafell wely.

Mae ffi sylfaenol o £820 yn cael ei chyfrifo ar gyfer 5 ystafell y gellir byw ynddynt mewn adeilad gyda 3 neu fwy o loriau.

Mae ffi ychwanegol o £30 ar gyfer pob ystafell y gellir byw ynddi ar gyfer eiddo sydd â rhwng 6 a 10 o ystafelloedd y gellir byw ynddynt. 

Ar gyfer eiddo gydag 11 neu fwy o ystafelloedd y gellir byw ynddynt, mae ffi ychwanegol o £40 ar gyfer ystafell rhif 11 y gellir byw ynddi a thu hwnt.

I grynhoi, y ffioedd arfaethedig ar gyfer trwyddedu tai amlfeddiannaeth yw:

Ffioedd trwyddedu tai amlfeddiannaeth am 5 mlynedd yn seiliedig ar nifer ystafelloedd y gellir byw ynddynt yn yr adeilad a nifer y lloriau.
Nifer yr ystafelloedd3 llawr 2 lawr Unllawr 
5 neu lai £820 £620 £420
6 £850 £650 £450
7 £880 £680 £480
8 £910 £710 £510
9 £940 £740 £540
10 £970 £770 £570
11 £1,010 £810 £610
12 £1,050 £850 £650
13 £1,090 £890 £690
14 £1,130 £930 £730
15 £1,170 £970 £770
16 £1,210 £1,010 £810
17 £1,250 £1,050 £650
18 £1,290 £1,090 £690
19 £1,330 £1,130 £730
20 £1,370 £1,170 £770

Enghraifft o ddadansoddiad o gostau 

Eiddo 3 llawr gyda 5 ystafell y gellir byw ynddi gyda ffi o £820 dros bum mlynedd yn costio:

  • £164 am 5 mlynedd fesul ystafell y gellir byw ynddi
  • £32.80 y flwyddyn fesul ystafell y gellir byw ynddi
  • 63 ceiniog yr wythnos ar gyfer pob ystafell y gellir byw ynddi 

Gostyngiadau ychwanegol sydd ar gael wrth gyflwyno’r cais cychwynnol

Mae gostyngiad o £200 os yw’r cais llawn yn cael ei dderbyn o fewn 8 wythnos o dderbyn hysbysiad o’r gofyniad i drwyddedu.

Dim ond 50% o’r ffi wreiddiol y mae angen i sefydliadau elusennol ei dalu.

Adnewyddu trwydded 

Mae modd cael 50% o ostyngiad o’r ffioedd a nodwyd wrth adnewyddu trwydded bresennol, cyn belled â’ch bod yn dychwelyd y cais llawn (gweler y rhestr wirio ar dudalen 2 y ffurflen gais) o leiaf 8 wythnos cyn i’r drwydded bresennol ddod i ben.

Mae hyn yn rhoi digon o amser i ni brosesu’r cais, sy’n cynnwys cynnal arolwg llawn System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS), cyflwyno rhybudd o gynnig a hysbysiad o benderfyniad i roi trwydded cyn i'r hen drwydded ddod i ben a gorfod cyflwyno un newydd. Nid yw ceisiadau i adnewyddu yn gymwys ar gyfer unrhyw “ostyngiadau ychwanegol”. 

Newid perchnogaeth tŷ amlfeddiannaeth

Nid oes modd trosglwyddo trwydded o un person i'r llall nac o un eiddo i un arall ac nid yw'r ffioedd yn ad-daladwy. Os gwerthwyd yr eiddo fel Tŷ Amlfeddiannaeth, bydd angen i’r landlord newydd wneud cais am drwydded newydd, bydd strwythur y ffioedd yr un fath mewn amgylchiadau o’r fath.

Dulliau Talu

Gellir talu yn llawn wrth gyflwyno’r cais neu mewn dau randaliad:

  • rhandaliad 1: 50% o’r ffi yn daladwy wrth gyflwyno’r cais 
  • rhandaliad 2: y 50% sy’n weddill yn daladwy ar ôl cymeradwyo Trwydded Eiddo

Ffi sy’n daladwy

Fel y nodwyd uchod, y cyfanswm sy'n daladwy yw ffi trwydded 5 mlynedd (yn seiliedig ar nifer y lloriau ac ystafelloedd y gellir byw ynddynt sydd yn yr adeilad), minws unrhyw ostyngiad.

Enghraifft: cais cyntaf am eiddo 3 llawr gyda 5 ystafell y gellir byw ynddi

  • Ffi trwydded 5 mlynedd: £820
  • Gostyngiad am gyflwyno cais llawn o fewn 8 wythnos o rybudd: £200
  • Cyfanswm y ffi sy’n daladwy: £620

Enghraifft: application renewal for a 2 storey property with 12 habitable rooms

  • Ffi trwydded 5 mlynedd: £850
  • 50% o ostyngiad am gyflwyno cais llawn 8 wythnos cyn i’r drwydded bresennol ddod i ben: £425
  • Cyfanswm y ffi sy’n daladwy: £425

Enghraifft: first application by a charitable organisation for a 3 storey property with 20 habitable rooms

  • Ffi trwydded 5 mlynedd: £1,370
  • 50% o ostyngiad ar gyfer sefydliadau elusennol: £685
  • Cyfanswm y ffi sy’n daladwy: £685

Sut i dalu

Dros y ffôn

Mae modd talu dros y ffôn gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd drwy gysylltu â’r adran Gyllid ar 01824 706417. Dyfynnwch 3479-40142 (Trwydded Ychwanegol), neu 3479-40091 (Trwydded Ofynnol) a chyfeiriad yr eiddo.

Trosglwyddiad BACS

Gellir talu drwy drosglwyddiad BACS drwy ddefnyddio’r manylion canlynol:

  • Rhif y Cyfrif: 22837469
  • Cod Didoli: 54-41-06

I sicrhau bod y taliad yn cyrraedd ein cyfrif, mae’n rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol yn y blwch cyfeirnod BACS:

  • Cod cost - 3479-40142 (Trwydded Ychwanegol), neu 3479-40091 (Trwydded Ofynnol)
  • Cod post

Er enghraifft, byddai'r cyfeirnod ar gyfer Trwydded Ofynnol ar gyfer Tŷ Amlfeddiannaeth yn 26 Fox Street, y Rhyl, LL18 1ZP fel a ganlyn:

3479-40142 LL181ZP

Rhowch wybod i ni pan fyddwch wedi talu drwy ffonio 01824 706389 neu anfonwch e-bost at envhealth@denbighshire.gov.uk.

Safonau Tai Aml-feddiannaeth

Rydym ni’n gyfrifol am sicrhau cadw at safonau Tai Aml-feddiannaeth, felly os ydych chi’n byw mewn llety o’r fath ac o’r farn bod peryglon afresymol nad ydi eich landlord preifat yn ymdrin â nhw, rhowch wybod i ni.

Cofrestr tai aml-feddiannaeth

Rydyn ni’n cadw cofrestr o’r holl eiddo yn Sir Ddinbych wedi eu rhestru fel tai 
aml-feddiannaeth.

Cofrestr trwyddedu Tai Aml-feddiannaeth (PDF, 86KB)

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am eiddo a drwyddedwyd, neu eiddo rydych chi’n teimlo y dylai gael ei gofrestru ond sydd heb ei gofrestru, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Dogfennau cysylltiedig

Safonau Gofynnol Trwyddedu ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth (PDF, 624KB)