Lles ac iechyd anifeiliaid
Gwybodaeth am Lles ac iechyd anifeiliaid yn Sir Ddinbych.
Dofednod
Ydych chi'n cadw dofednod neu adar hela? Ydych chi wedi cofrestru?
Mae pob ceidwaid adar angen cynllunio sut y byddant yn gwarchod eu haid rhag afiechydon fel Avian influenza (‘ffliw adar’), afiechyd Newcastle a Salmonela. Os nad ydych yn sicr beth i’w wneud, yna ceisiwch gyngor gan eich milfeddyg.
Y ffordd orau o gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw achosion o glefyd (fel ffliw adar) yn eich ardal yw cofrestru eich praidd o adar gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Cysylltir â chi ar unwaith, drwy e-bost neu neges destun gyda diweddariadau, gan eich galluogi i ddiogelu eich dyfednod cyn gynted â phosibl.
Sut i Gofrestru?
Rhaid i chi gofrestru heidiau dofednod o 50 neu fwy o adar yr ydych yn berchen arnynt neu'n gyfrifol amdanynt, y rhai sydd â llai na 50 o adar, byddem yn eich annog yn gryf i gofrestru hefyd. Nid oes rhaid iddynt i gyd fod or un rhywogaeth. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os mai dim ond am ran o'r flwyddyn y mae eich eiddo wedi'i stocio.
Trwy e-bost
Cwblhewch y ffurflen gofrestru ar gael yn GOV.UK: Dofednod (gan gynnwys adar hela) - rheolau a ffurflenni cofrestru (gwefan allanol), a'i e-bostio i customerregistration@apha.gsi.gov.uk.
Mae nodiadau canllaw i'ch helpu i gwblhau'r ffurflen. Mae fersiynau Cymraeg o'r ffurflen gofrestru a nodiadau canllaw ar gael hefyd.
Dros y ffôn
Gofynnwch am ffurflen gofrestru drwy gysylltu â Llinell Gymorth Cofrestr Dofednod Prydain Fawr ar 0800 634 1112.
Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5:00pm o ddydd Llun i dydd Gwener.
Darganfod mwy am gadw dofednod (gwefan allanol)
Iechyd anifeiliaid
Os yw swyddog yn amau fod anifail wedi dioddef yn ddianghenraid, byddent yn gofyn i filfeddyg archwilio’r anifail. Mewn achosion eithafol, gallwn benderfynu erlyn, a gall hyn arwain at ddirwy, cyfnod yn y carchar a gwaharddiad ar gadw anifeiliaid.
Mewnforio ac allforio
Rheolir mewnforio ac allforio anifeiliaid byw er mwyn atal lledaenu afiechydon. Mae’r lefel o reolaeth sydd ei angen yn dibynnu ar y math o anifail sy’n cael ei fewnforio a pa un ai a yw'r wlad wreiddiol o fewn yr Undeb Ewropeaidd (EU).
Darganfod mwy am mewnforion anifeiliaid (gwefan allanol)
Darganfod mwy am allforion anifeiliaid (gwefan allanol)
Symud ac adnabod anifeiliaid fferm
Mae’n rhaid adnabod pob da byw cyn eu symud ac mae’n rhaid i’r ddogfennaeth briodol fynd gyda hwy. Ar gyfer gwartheg a cheffylau mae’r dogfennau hyn yn basborts unigol ar gyfer pob anifail; cyhoeddir y rhain gan sefydliadau eraill (Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) ar gyfer gwartheg a Swyddfa Cyhoeddi Pasbort (SCP) ar gyfer ceffylau).
Ar gyfer defaid, geifr, moch a cheirw mae angen dogfen symud ar gyfer pob llwyth o anifeiliaid a symudir.
Tra bo rhai symudiadau wedi eu heithrio o’r angen i hysbysu, bydd angen i fanylion y rhan fwyaf o symudiadau gael eu hadrodd i’r GSGP, EID Cymru, SCP, cronfa ddata eAML2 Adran Weithredol Moch Prydain (AWMP).
Hyd yn oed os nad ydych yn cadw da byw er dibenion masnachol, mae’n rhaid ichi gofrestru gyda Llywodraeth Cymru.
Darganfod mwy am symud ac adnabod (gwefan allanol).
Ceffylau
Mae’n rhaid i bob ceffyl gael pasbort ceffyl ac mae rheoliadau angen i bob ebol gael microsglodyn wedi ei osod gan filfeddyg pan fo’u perchnogion yn ceisio am basbort. Mae’n rhaid i farchogwr neu geidwad y ceffyl gadw’r pasbort gyda hwy bob tro y maent gyda’r anifail, oni bai ei fod mewn stabl, yn pori mewn cae, neu’n cael ei symud ar droed.
Darganfod mwy am gadw ceffylau (gwefan allanol)
Lles da byw
Dylai unrhyw un sy’n gyfrifol am anifeiliaid fferm gymryd camau rhesymol i sicrhau y gwireddir anghenion yr anifail. Mae hyn yn cynnwys cyfnodau eu cludo, mewn marchnadoedd ac yn y tŷ lladd.
Gallwch gysylltu â ni i roi gwybod inni am greulondeb da byw.
Cysylltu â ni: Lles ac iechyd anifeiliaid
Darganfod mwy am les da byw (gwefan allanol)
Gwaharddiadau symud
Pan fo defaid, geifr neu wartheg yn symud i ddaliad, ni all unrhyw anifail arall symud oddi arno am 6 diwrnod, neu 20 diwrnod pan fo moch yn cael eu cludo i mewn, oni chludir hwy’n uniongyrchol i’r tŷ lladd.
Defnyddiwch y cyfrifydd gwaharddiad symud 20 diwrnod pan fo moch yn symud i’ch daliad.
Cyfrifiannell gwaharddiad symud 20 diwrnod (PDF, 72KB)
Defnyddiwch y cyfrifydd gwaharddiad symud 6 diwrnod pan fo defaid, geifr neu wartheg yn symud i’ch daliad.
Cyfrifiannell gwaharddiad symud 6 diwrnod (PDF, 71KB)
Anifeiliaid fferm marw
Mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod yn cael gwared â phob anifail a rhannau o anifeiliaid sydd wedi marw (gan gynnwys y rhai marw-anedig) yn un o’r ffyrdd canlynol:
- Mewn llosgwr ar-fferm cymeradwy, hynny yw, ar fferm ar gyfer stoc y fferm yn unig
- Ar lwyth i losgwyr neu doddwyr cymeradwy
- Casgliad gan ddefnyddwyr cymeradwy e.e. celanedd-dai neu cyndai hela
Mae’n rhaid cludo anifeiliaid neu rannau o anifeiliaid marw mewn cerbydau/cynhwysyddion glân, sych, wedi eu gorchuddio ac nad ydynt yn gollwng, gyda label, 'anaddas i’w fwyta gan anifeiliaid’. Mae’n rhaid glanhau, golchi a diheintio’r rhain ar ôl pob defnydd.
Darganfod mwy am gael gwared ag anifeiliaid fferm marw (gwefan allanol)
Mwy o wybodaeth
Ewch i’r dudalen trwyddedau anifeiliaid i ddarganfod mwy am ba fusnesau a pherchnogion anifeiliaid sydd angen cydymffurfio â’r gyfraith.