Sir Ddinbych yn Gweithio: Cefnogaeth Arbenigol
Mae gan Sir Ddinbych yn Gweithio dri mentor arbenigol a all eich helpu os ydych yn dod o dan un o’r categorïau canlynol:
Mentor Ffoaduriaid
Ar gyfer y bobl hynny sy'n cyrraedd Sir Ddinbych fel rhan o gynllun ffoaduriaid Llywodraeth y DU. Rydym wedi bod yn gweithio’n bennaf gyda ffoaduriaid o Syria ac Afghanistan ond o ble bynnag yr ydych yn dod, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Mae ffoaduriaid o Wcrain yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd drwy ein darpariaeth brif ffrwd a thrwy sesiynau grŵp wedi'u trefnu.
Mentor tenantiaid tai cymdeithasol
Mae gennym fentor arbenigol yn gweithio gyda holl denantiaid tai cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych. Mae’r ddarpariaeth hon yn helpu i ofalu am les economaidd ein cymdogaethau.
Mentor digartrefedd
Mae gennym fentor arbenigol ar gyfer y rhai sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae materion Tai a Chyflogaeth yn aml yn mynd law yn llaw a gall fod angen cefnogaeth gan Sir Ddinbych yn Gweithio a thîm y Gwasanaethau Cymorth Tai. Mae ein mentor arbenigol yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc hyd at 35 oed. Mae pobl ddigartref hŷn yn cael eu cefnogi drwy ein darpariaeth prif ffrwd.
Mae gen i ddiddordeb mewn cael cefnogaeth arbenigol. Beth sydd angen i mi ei wneud?
Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen isod:
Sir Ddinbych yn Gweithio: Cysylltu â ni