Recriwtio diogelach: Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)
Gofynion GDG ar gyfer swydd newydd
Wrth recriwtio ar gyfer swydd newydd, mae’n rhaid i reolwyr benderfynu os yw angen:
- gwiriad GDG safonol
- gwiriad Manylach GDG
- gwiriad manylach ar gyfer gweithgaredd wedi'i rheoleiddio
Gweler y Polisi GDG sy’n amlinellu pa rolau sy’n gymwys ar gyfer pa lefel o wiriad, neu gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein GDG i wirio bod rôl yn gymwys ar gyfer gwiriad GDG a pha fath – GOV.UK: Find out which DBS check is right for your employee (gwefan allanol)
Bydd pob swydd ble mae gan weithwyr fynediad i blant ac/neu oedolion diamddiffyn yn ddarostyngedig i wiriad GDG manylach gyda gwiriad rhestrau a rwystrwyd yn unol â’r meini prawf cymhwysedd a amlinellir gan y GDG.
Yr isafswm oed y gall rhywun gael gwiriad GDG yw 16 oed.
Mae gwiriadau GDG yn cael eu cynnal yn bennaf drwy wasanaeth ar-lein sydd wedi eu caffael (gan ‘First Advantage Online Disclosures’), sy’n golygu fod gwiriadau yn cael eu cwblhau yn llawer cynt ac yn galluogi i staff newydd ddechrau yn eu rôl newydd yn gynt. Gall gweithwyr hefyd ddewis ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru GDG sy’n caniatáu i hyd yn oed wneud gwiriad cynt.
Mae’r GDG yn defnyddio system ffiltro, sy’n golygu yn dibynnu ar y math o GDG, na fydd rhai rhybuddion, cerydd, amodau yn cael eu datgelu, gan eu bod yn cael eu hystyried wedi eu ‘diogelu’ o dan y Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975. Nid oes yn rhaid i chi ddatgelu troseddau nad ydynt yn dod o fewn y rheolau uchod. Gweler y Polisi GDG am fwy o wybodaeth ar yr hyn sy’n cael ei ddatgelu.
Ni fydd datgeliadau neu droseddau ar dystysgrif GDG yn golygu nad yw rhywun yn gyflogadwy yn awtomatig. Bydd yn dibynnu ar y drosedd a’r swydd ac felly bydd pob rheolwr unigol yn cynnal asesiad risg gyda’r unigolyn.
Gall gweithwyr a rheolwyr ddod o hyd i wybodaeth bellach am wiriadau GDG drwy naill ai ddarllen y polisi GDG neu drwy ymweld â’r Gwasanaeth GDG ar-lein - GOV.UK: About the Disclosure and Barring Service (gwefan allanol)
Polisi: gwasanaeth datgelu a gwahardd (GDG) (PDF, 1.65MB)
Cysylltu â ni
Dogfennau cysylltiedig