Cylchred Rheoli Perfformiad a Chyflogau (ysgolion)
Bydd y pennaeth yn penderfynu ar amseriad y gylchred werthfawrogi ar gyfer pob athro sydd yn yr ysgol. Dylid amlinellu'r amseriad ym Mholisi Rheoli Perfformiad yr ysgol a dylai hefyd gysylltu â chylchred gynllunio’r ysgol, gan gynnwys y Cynllun Gwella Ysgol a gall hefyd ystyried y gylchred gyflogau flynyddol.
Enghreifftiau o gylchred Rheoli Perfformiad ysgol:
Rheoli Perfformiad
Ar gyfer y cam hwn yn y gylchred, dylai ysgolion adolygu eu gwerthuso/rheoli perfformiad a'u gweithdrefnau. Mae’r rhain yn enghreifftiau o gwestiynau y dylid mynd i’r afael â nhw:
- Beth yw’r strwythur rheoli atebol
- a yw hyn yn addas i roi gwybodaeth er mwyn talu cyflogau?
- A yw athrawon a rheolwyr atebol yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt?
- Pa systemau sicrhau ansawdd sydd yno?
- Sut mae targedau’n cael eu gosod a sut y cytunir arnynt?
- Pa dystiolaeth sydd wedi’i chasglu?
- Pa adborth a roddir?
- A yw’r broses hon yn helpu i godi safonau?
Efallai y bydd angen adolygu polisi Rheoli Perfformiad yr ysgol i adlewyrchu’r newidiadau yn eu polisi cyflogau nhw yn flynyddol.
Amcanion
Mae angen adolygu amcanion a thargedau er mwyn gweld a oes modd eu defnyddio i fwydo gwybodaeth i’r broses werthuso. Mae’n rhaid i amcanion:
- fod yn glir ac yn hawdd eu deall
- fod yn gysylltiedig â'r swydd-ddisgrifiad cyfredol
- ni ddylid cyfeirio at weithgareddau allgyrsiol
- dylai'r polisi cyflogau egluro sut y bydd cyflog yn cael ei benderfynu pan fo athrawon yn absennol am unrhyw reswm, er enghraifft mamolaeth neu gyfnod o salwch tymor hir.
- gellir defnyddio amcanion a rennir
- mae’n rhaid i amserlen pob amcan fod yn realistig
Cylideb
Mae angen adolygu cyllideb yr ysgol er mwyn ystyried datblygiad cyflog unrhyw athro.
Bydd angen i’r Llywodraethwyr ystyried goblygiadau cyllidebol y penderfyniadau cyflog ac ystyried eu cynlluniau gwario.
Dogfennau cysylltiedig