Bwlio ac aflonyddwch (ysgolion)
Mae gan bawb hawl i gael eu trin â pharch ac urddas yn y gwaith. Nid yw bwlio ac aflonyddwch o unrhyw fath o fudd i neb ac ni fydd Cyngor Sir Ddinbych yn goddef ymddygiad o’r fath.
Mae Bwlio ac Aflonyddwch yn y gwaith yn anghyfreithlon a gallai’r cyngor a’r un sy’n aflonyddu fod yn atebol am weithgarwch anghyfreithlon o’r fath, a gorfod talu iawndal. Gall bwlio ac aflonyddwch leihau effeithiolrwydd y cyngor drwy danseilio hyder gweithwyr, creu amgylchedd bygythiol, a chynyddu absenoldeb salwch a throsiant llafur. Mae gan weithwyr hawl i weithio mewn amgylchedd nad yw’n fygythiol.
Rydym yn cydnabod natur sensitif cwynion am aflonyddwch a bwlio ac yn deall fod gweithwyr sy'n cael eu bwlio neu eu haflonyddu yn agored i niwed ac yn aml yn gyndyn o gwyno. Mae’n bosib eu bod yn teimlo cywilydd neu’n ansicr sut i wneud cwyn, neu'n bryderus y bydd eu cwyn yn cael ei gymryd yn ysgafn. Mae’n bosib eu bod yn ofni y bydd rhywun yn dial arnynt ac nad ydynt eisiau tynnu sylw at eu sefyllfa.
Ni ddylai gweithwyr sy’n cael eu bwlio a'u haflonyddu ddioddef yn dawel.
Gellir cael cymorth cyfrinachol o nifer o lefydd:
- Pennaeth / Rheolwr Atebol neu Cadeirydd y Llywodraethwyr;
- Cynrychiolydd Undeb Llafur;
- Chynrychiolydd AD;
- Iechyd Galwedigaethol
Gall gweithiwr siarad gyda ffrind neu gydweithwyr, ond ni all y cyngor sicrhau fod y mater yn cael ei gadw’n gyfrinachol.
Mae dau ddull o ddelio gyda chwynion o aflonyddwch a bwlio:
Anogir gweithwyr i ddefnyddio’r dull anffurfiol yn gyntaf.
Fodd bynnag, os na all gweithiwr wneud hynny oherwydd difrifoldeb neu natur yr aflonyddwch / bwlio, gellir defnyddio’r dull ffurfiol yn syth.
Polisi a Threfn Urddas yn y Gwaith (Ysgolion) (PDF, 1.17MB)