Graddfeydd cyflog gan gynnwys dyddiadau talu
Strwythur cyflog a graddio
Rydym wedi datblygu'r strwythur cyflog a graddio i sicrhau bod pawb a gyflogir yn y cyngor yn cael eu cydnabod a’u gwobrwyo am y cyfraniad maent yn ei wneud.
Cyflog sylfaenol yw rhain yn unig ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw ar-gostau. Am wybodaeth am yr ar-gostau, cysylltwch â'ch Uwch Reolwr Cyllid.
Nodwch y gall eich cyflog fod yn destun y Gwobrau Cyflog Cenedlaethol.
Sut ydw i'n cael fy nhalu?
Cewch eich talu bob mis yn uniongyrchol i’r cyfrif banc rydych wedi’i ddewis.
Pryd ydw i'n cael fy nhalu?
Y dyddiad talu arferol yw ar y 18fed o bob mis, neu o gwmpas hynny. Bydd eich cyflog yn cael ei dalu ar sail pythefnos mewn ôl-ddyledion a phythefnos ymlaen llaw (oni bai eich bod yn Weithiwr Wrth Gefn, pan gewch eich talu fis llawn mewn ôl-ddyledion). Yn dibynnu ar rôl eich swydd, gallwch gael eich talu ar yr 28ain o bob mis, neu o gwmpas hynny. Ar adeg eich penodiad, cewch wybod pa ddyddiad talu cyflog sy’n gymwys i chi.
Codiad cyflog
Yn amodol ar wasanaeth boddhaol, bydd eich cyflog yn codi bob blwyddyn hyd at uchafswm y raddfa sy’n berthnasol i’ch swydd, fel a ganlyn:
Bydd y codiadau cyflog dilynol yn digwydd naill ai ym mis Ebrill neu Hydref, gyda'r cynnydd cynyddrannol cyntaf yn dod i rym ar ôl o leiaf 12 mis ac uchafswm o 18 mis ar ôl cychwyn yn y swydd, gan ddibynnu ar y dyddiad cychwyn. Wedi hynny bydd y taliadau cynyddol yn cael eu talu’n flynyddol ym mis Ebrill neu Hydref.
Codiad cyflog
Dyddiad dechrau | Dyddiad Codiad Cyflog |
2 Ebrill - 1 Hydref |
1 Hydref y flwyddyn ganlynol |
2 Hydref i 1 Ebrill |
1 Ebrill y flwyddyn ganlynol |
Efallai y cewch eich dyrchafu i raddfa uwch cyn i chi gyrraedd cyflog uchaf eich graddfa bresennol. Mae dyrchafiad i raddfa uwch yn dibynnu ar swydd wag yn y raddfa, ac eithrio pan adolygir y sefydliad, neu pan gaiff swyddi ychwanegol eu dyrannu. Os cewch eich dyrchafu neu eich ail-raddio i raddfa uwch, cewch godiad cyflog yn syth.
Os cewch eich penodi i swydd o fewn eich graddfa bresennol, yna cewch eich talu ar y cyflog sydd o leiaf un pwynt colofn cyflog yn fwy na’r cyflog y byddech wedi'i chael ar ddyddiad y penodiad neu ddyrchafiad. Fodd bynnag, os nad oes newid i’r raddfa, wedi ailwerthusiad o’ch swydd yn seiliedig ar fwy o ddyletswyddau a chyfrifoldebau, yna bydd eich cyflog yn aros yr un fath.
Os cewch eich paru â swydd fel rhan o ailstrwythuriad, yna mae codiad cyflog arferol yn gymwys, ac ni roddir codiad cyflog am baru swydd.
Os cewch eich cyflogi fel Gweithiwr Wrth Gefn, cewch eich talu’n unol â'r pwynt colofn cyflog cyntaf o'r raddfa addas. Oherwydd natur gwaith wrth gefn ac absenoldeb oriau rheolaidd a/neu batrwm gwaith, ni fydd codiad cyflog yn daladwy.
Gellir atal codiad cyflog am berfformiad gwael, ond dim ond ar ôl cynnal ymchwiliad yn unol â’r Weithdrefn Galluedd. Nodwch nad yw’n bosibl cyflymu gweithiwr drwy’r system codiad cyflog o fewn eu graddfa werthuso. Fel y nodwyd uchod, ceir codiad cyflog wedi i weithiwr fodloni'r gwasanaeth gofynnol.
Dogfennau cysylltiedig