Yr Hawl i Wyliau Blynyddol
Mae gwyliau blynyddol yn cael ei gyfrifo ar ddechrau pob blwyddyn wyliau a phob tro y ceir newid mewn trefniadau gweithio neu oriau gwaith.
Bydd holl weithwyr yn derbyn eu hawl mewn oriau a munudau. Mae’ch rheolwr atebol yn gyfrifol am sicrhau bod eich hawl i wyliau blynyddol yn gywir.
Canllaw: gwyliau blynyddol i weithwyr a rheolwyr (PDF, 748KB)
Fel un o weithwyr y Cyngor, yr isafswm o ran gwyliau â thâl sy’n ddyledus i chi yw 23 diwrnod (170 awr a 12 munud pro rata i'ch oriau cyfartalog). Bydd hawl i wyliau pellach gael ei ganiatáu fel y nodir yn y tabl isod. Mae’r hawl a ddangosir yn seiliedig ar gyfraddau llawn amser. Yn berthnasol i flwyddyn gwyliau nesaf, ar ôl 1 Ebrill 2023.
Yr Hawl i Wyliau Blynyddol
Hawl | Diwrnodau | Oriau |
Sylfaenol |
23 |
170 awr 12 munud |
Gwyliau Statudol Ychwanegol |
+3 |
+22 awr 12 munud |
Gwyliau ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth di-dor |
+3 |
+22 awr 12 munud |
Gwyliau ychwanegol ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth di-dor |
+1 |
+7 awr 24 munud |
Gwyliau ychwanegol ar ôl 15 mlynedd o wasanaeth di-dor |
+1 |
+7 awr 24 munud |
Gwyliau ychwanegol ar ôl 20 mlynedd o wasanaeth di-dor |
+1 |
+7 awr 24 munud |
Cyfanswm nifer y gwyliau blynyddol posibl |
32 |
236 awr 48 munud |
Os oes gennych chi gontract llawn amser, mae’r nifer mwyaf o wyliau blynyddol y gallwch chi eu cymryd, yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth, wedi ei nodi isod. Bydd Adnoddau Dynol yn cyfrifo'r union hawl yn ôl hyd eich gwasanaeth di-dor yn y llywodraeth leol.
Yr hawliau cyfwerth ag amser llawn mwyaf
Hyd gwasanaeth | Diwrnodau | Oriau |
Llai na 4 blynedd o wasanaeth di-dor |
26 |
192 awr 24 munud |
Rhwng 4 a 5 mlynedd o wasanaeth di-dor |
26 i 28 |
Rhwng 192 awr 24 munud a 207 awr 12 munud |
5 mlynedd o wasanaeth di-dor |
29 |
214 awr 36 munud |
10 mlynedd o wasanaeth di-dor |
30 |
222 awr |
15 mlynedd o wasanaeth di-dor |
31 |
229 awr 24 munud |
20 mlynedd o wasanaeth di-dor |
32 |
236 awr 48 munud |
Cario Gwyliau Drosodd
Mae modd i chi gario gwerth dau wythnos o oriau drosodd o un flwyddyn wyliau i’r llall, i’w defnyddio yn ystod y flwyddyn ganlynol, yn amodol ar yr awdurdodiad arferol ar ôl gwneud cais am hynny.
Ni fyddwch yn derbyn tâl am unrhyw ddiwrnod o wyliau sy’n weddill ar ddiwedd y flwyddyn wyliau.
Gwyliau Statudol Ychwanegol
Fel y nodir yn y tabl uchod mae gennych chi hawl i 3 diwrnod ychwanegol o wyliau statudol (22 awr 12 munud pro rata). Pan fo’n briodol bydd y Cyngor yn penderfynu, ar ôl ymgynghori gyda’r undebau llafur cydnabyddedig, pryd y gellir cymryd y diwrnodau ychwanegol hyn.
At ddibenion cyfrifo, dylid cyfuno'r hawl i wyliau blynyddol a’r hawl i wyliau statudol.
Blwyddyn Wyliau
Mae blwyddyn wyliau pob gweithiwr yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf mis eu geni.
Mae hawl flynyddol gweithwyr sy’n gadael neu’n ymuno â’r Cyngor yn cael ei chyfrifo yn unol â hyd eu gwasanaeth yn ystod y flwyddyn wyliau.
Gŵyl y Banc / Gwyliau Cyhoeddus
Mae gennych chi hawl i ddiwrnod o wyliau gyda thâl ar gyfer pob diwrnod o wyliau statudol, cyffredinol a chyhoeddus. Os ydych chi’n gweithio dan gontract rhan-amser bydd eich hawl yn cael ei chyfrifo i gyd-fynd â’ch oriau gwaith.
Prynu Gwyliau Ychwanegol
Gellir ‘prynu’ hyd at 40 o ddiwrnodau gwyliau ychwanegol (sef gwerth 8 wythnos o oriau). Mae’n rhaid gwneud cais am ddiwrnodau ychwanegol ymlaen llaw ac mae’n rhaid i’r rheolwr atebol gymeradwyo’r cais.
Gwneud Cais am Wyliau Blynyddol
Mae’n rhaid i bawb wneud cais am wyliau blynyddol ymlaen llaw, gan ddefnyddio nifer y diwrnodau gwyliau yr hoffech chi eu cael fel cyfnod rhybudd (h.y. os oes arnoch chi eisiau deuddydd o wyliau byddai’n rhaid i chi roi deuddydd o rybudd). Fodd bynnag dylid rhoi cymaint o rybudd â phosibl a mwy o rybudd os oes arnoch chi eisiau cymryd cyfnod hirach o wyliau.
Dylai pob gweithiwr geisio rhoi cymaint o rybudd â phosibl wrth wneud cais am wyliau blynyddol.
Bydd rheolwyr yn ceisio cymeradwyo pob cais am wyliau blynyddol ond mae’n bosibl y bydd rhai ceisiadau yn cael eu gwrthod os oes rhesymau busnes da dros wneud hynny. Bydd y rheolwr yn esbonio’r rhesymau hyn yn ysgrifenedig i’r gweithiwr o fewn 5 niwrnod gwaith (gall hynny fod ar ffurf e-bost).
VisionTime a chardiau gwyliau
VisionTime
Ar ôl derbyn caniatâd i gymryd diwrnod neu gyfnod o wyliau bydd yn rhaid i chi gofnodi hynny ar system VisionTime neu ar gerdyn gwyliau (dim ond gweithwyr heb fynediad i VisionTime ddylai ddefnyddio cardiau gwyliau).
Dylai pob gweithiwr sy’n defnyddio VisionTime archebu gwyliau blynyddol ymlaen llaw drwy’r system honno. Bydd rheolwyr wedyn yn defnyddio’r system i awdurdodi neu wrthod gwyliau blynyddol.
Y weithdrefn - Oriau Hyblyg (Vison Time) (PDF, 290KB)
Cardiau gwyliau
Bydd yn rhaid i weithwyr nad ydyn nhw’n gallu defnyddio VisionTime ddefnyddio cardiau gwyliau i gofnodi eu gwyliau blynyddol. Bydd rheolwyr yn cadarnhau gwyliau blynyddol ar ddechrau pob blwyddyn wyliau ac yn llofnodi pob cais.