Gweithio o gartref
Alla i hawlio costau band eang a thrydan?
Bydd gweithwyr yn gyfrifol am ddarparu eu band eang eu hunain at ddibenion gweithio ystwyth. Ni fydd y cyngor yn ad-dalu unrhyw gostau ychwanegol sef trydan, band eang, llinellau ffôn ac ati.
Alla i brynu desg, cadair, argraffydd ac ati a hawlio amdanynt?
Mae gofyn i weithwyr sy’n gweithio o gartref ddarparu amodau gwaith addas yn cynnwys cadair a desg. Ni fydd gweithwyr yn gallu hawlio costau unrhyw offer heblaw am yr offer TGCh isod. Mae’n bosibl y bydd ar weithwyr sydd angen addasiadau rhesymol angen offer ychwanegol a bydd hyn yn cael ei drefnu mewn ymgynghoriad ag iechyd galwedigaethol a’r rheolwr atebol.
Bydd gweithwyr yn cael y dechnoleg a’r offer TGCh angenrheidiol er mwyn gweithio mewn modd ystwyth. Byddwch yn cael:
- Gliniadur
- bysellfwrdd a llygoden
- stand gliniadur
- clustffonau
Beth os nad oes gennyf le i weithio yn fy nghartref?
Gallwch weithio o’ch man gwaith arferol neu drwy drefniant, un o swyddfeydd eraill priodol y cyngor
Beth os nad wyf eisiau gweithio o gartref?
Gallwch weithio o’ch man gwaith arferol neu drwy drefniant, un o swyddfeydd eraill priodol y cyngor.
Beth os nad yw fy nghartref yn lle diogel i fod ynddo ac i weithio ynddo?
Os nad yw gweithiwr yn gallu gweithio gartref yn ddiogel, yna bydd angen gweithio o swyddfa briodol sy’n eiddo i’r cyngor.
Beth os oes gen i anabledd ac angen offer arbenigol i weithio?
Mae’n ofynnol i weithwyr sy’n gweithio gartref ddarparu amodau gwaith addas yn cynnwys cadair a desg, fodd bynnag, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, bydd y Cyngor yn ystyried ac yn cefnogi unrhyw addasiadau rhesymol. Bydd pob cais am offer arbennig yn cael ei ystyried gan Iechyd Galwedigaethol.
Ydw i angen sicrhau bod fy yswiriant cartref yn caniatáu i mi weithio o gartref?
Mae cyfrifiaduron, gliniaduron, ffonau ac unrhyw offer arall a ddarperir gan y Cyngor wedi’u cynnwys ym mholisi yswiriant y Cyngor. Fodd bynnag, bydd angen i weithwyr barhau i wneud yn siŵr bod yr offer ac unrhyw wybodaeth sydd ar yr offer yn ddiogel.
Mae gweithwyr yn gyfrifol am gysylltu ag unrhyw un â diddordeb yn eu heiddo (e.e. benthycwyr morgeisi, landlordiaid, lesddeiliaid, yswirwyr adeiladau a chynnwys) i sicrhau nad oes unrhyw beth y mae arnynt angen ei ystyried wrth weithio gartref. Ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw gostau ychwanegol o ganlyniad.
Bydd gweithwyr sy’n gweithio gartref yn cael eu cynnwys yn y Polisi Atebolrwydd y Cyflogwr. Rhaid rhoi gwybod am unrhyw ddamweiniau ar unwaith yn unol â chanllawiau adrodd y Cyngor.
Beth os byddaf yn cael damwain yn y cartref, beth ddylwn i ei wneud?
Mae damweiniau yn y cartref yn ystod oriau gwaith yn cael eu hystyried yn ddamweiniau cysylltiedig â’r gwaith a rhaid rhoi gwybod i’r rheolwr atebol ar unwaith a rhaid i’r gweithiwr hefyd gwblhau ffurflen ddamweiniau CSDd ar-lein. Dim ond pan fydd damweiniau yn gysylltiedig â’r gwaith sy’n cael ei wneud a’r offer y mae CSDd wedi’i ddarparu i gyflawni’r gwaith hwnnw y bydd yn rhaid i weithwyr roi gwybod amdanynt.
Beth os byddaf yn sâl ac yn methu mynd i’r swyddfa ond yn gallu gweithio ychydig oriau gartref?
Wrth weithio o bell, os nad yw gweithiwr yn gallu gweithio oherwydd salwch, bydd gweithdrefnau cofnodi absenoldeb salwch yn berthnasol fel ag y byddent pe bai’r gweithiwr yn y gweithle. Cyfeiriwch at Weithdrefn Presenoldeb yn y Gwaith y Cyngor am fwy o fanylion.
Mae fy mhlentyn yn sâl ac yn methu mynd i’r ysgol / lleoliad gofal arferol. Alla i weithio o gartref wrth ofalu am fy mhlentyn?
Rhaid i weithwyr nodi nad yw'r gallu i weithio gartref yn cymryd lle gofal plant neu gyfrifoldebau tebyg fel gofalwr. Cyfrifoldeb y gweithiwr fydd sicrhau bod ganddynt drefniadau gofal plant / cyfleusterau gofal digonol. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo eich bod yn gallu gofalu am eich plentyn a parhau i weithio pan fyddant i ffwrdd yn sâl, yn dilyn trafodaeth gyda'ch rheolwr, gallwch wneud hynny. Os na fyddwch yn gallu gweithio yn yr amgylchiadau hynny, mae ffurflenni absenoldeb eraill (yn cynnwys fflecsi) y gallwch eu defnyddio yn dibynnu ar gymeradwyaeth eich rheolwr.