Aelodau ar Gyfer Paneli Apel Addysg

Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam Aelodau ar Gyfer Paneli Apel Addysg

Gwahoddir ceisiadau i fod yn aelodau newydd o baneli apel addysg annibynnol Awdurdodau Lleol Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, a Chyrff Llywodraethol ysgolion sefydledig a holl ysgolion Pabyddol ac Eglwys yng Nghymru a gynorthwyir yn wirfoddol yn Esgobaeth Wrecsam a Llanelwy.

Mae tri aelod ar bob panel, ac maent yn gweithredu'n annibynnol o'r Awdurdod Lleol. Gwaith Panel yw clywed a phenderfynu ynghylch apeliadau rhieni yn erbyn naill ai gwahardd disgybl neu wrthod derbyn eu plentyn i'r ysgol o'u dymuniad. Yn gyfreithiol, mae'n rhaid i'r Panel gynnwys aelodau lleyg ac aelodau a phrofiad addysg.

Gwahoddir ceisiadau gan bobl o bob cefndir gan fod angen aelodau lleyg ac aelodau sydd a phrofiad o addysg ar y paneli. Mae'n rhaid i Aelod Lleyg fod yn unigolyn heb brofiad personal o reoli unrhyw ysgol neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol, oni bai fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swyddogaeth wirfoddol arall. Mae'n rhaid i Baneli Apel Derbyn hefyd gynnwys aelodau sydd a phrofiad o addysg, neu sy'n gyfarwydd a'r amgylchiadau addysgol yn ardal yr ysgol, neu sy'n rhieni i blant ar gofrestr ysgol. Rhaid i Baneli Apel Gwahardd gynnwys llywodraethwr ysgol ac ymarferydd addysg.

Gwirfoddol yw'r gwaith ond telir treuliau teithio a chynhaliaeth rhesymol. Bydd hyfforddiant yn cael ei roi i bob aelod o'r panel.

Os hoffech fwy o fanylion neu os oes gennych ddiddordeb ymgeisio i fod yn aelod o banel un neu bob awdurdod, cysylltwch a Chlerc y Paneli Apel Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY drwy e-bost: panelapeliadauaddysg@wrexham.gov.uk.

Dylid derbyn ymatebion erbyn 4yp ar y 31ain o Orffennaf 2024.

Aelodau'r Panel Apêl Derbyniadau A Gwaharddiadau Ysgol

O bryd i'w gilydd bydd Cynghorau Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn galw ar aelodau i eistedd ar baneli apêl annibynnol. Mae dau fath o banel apêl efallai y gofynnir i chi eistedd arnynt; y panel apêl derbyniadau a'r panel apêl gwaharddiadau.

Bydd y panel apêl annibynnol wedi’i ffurfio o dri neu bum aelod. Mae'r materion sy'n cael eu hystyried gan y ddau banel yn eithaf gwahanol ac i'w gweld isod, ond yn ei hanfod, bydd gweinyddiaeth y Panel yn debyg ar gyfer y ddau fath o apêl.

Bydd y panel yn cael ei gynorthwyo gan Glerc. Mae Clerc y panel yn sicrhau bod ffeithiau perthnasol yn cael eu sefydlu a bod y gwrandawiad apêl yn cael ei gynnal mewn modd teg a phriodol. Bydd y Clerc yn ffynhonnell annibynnol o gyngor ar y weithdrefn a thystiolaeth a bydd yn gwneud cofnod o'r trafodion, penderfyniadau a rhesymau ac yna bydd yn hysbysu pawb o benderfyniad y Panel. Os bydd y panel yn ei wahodd, bydd y Clerc yn aros gyda'r Panel yn ystod eu trafodaethau, ond ni fydd yn cymryd unrhyw ran yn y broses o wneud penderfyniadau.

Ar ddiwedd yr Apêl, bydd y Panel yn pwyso a mesur yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd iddynt yn ofalus ac yn wrthrychol cyn dod i benderfyniad terfynol ar yr apêl. Mae penderfyniad y Panel Apêl yn derfynol ac mae'r penderfyniad yn derfynol ar gyfer yr holl bartïon dan sylw. Nid oes unrhyw hawl bellach i apelio gyda’r materion hyn.

Cyn y gofynnir i chi eistedd ar unrhyw Banel Apêl, byddwch yn derbyn hyfforddiant priodol.

Nid yw bod yn Banelwr yn swydd â thâl, ond, bydd costau teithio yn ôl ac ymlaen o leoliad yr apêl a threuliau chynhaliaeth rhesymol yn cael eu talu.

Panel Apêl Derbyniadau

Gall unrhyw riant neu warcheidwad cyfreithiol apelio yn erbyn penderfyniad gan awdurdod derbyn ysgol i wrthod cynnig lle i'w plentyn yn yr ysgol o'u dewis. Mae gan Rieni hawl i apelio i banel apêl annibynnol fel y disgrifir yn y Ddeddf Fframwaith a Safonau Ysgolion 1998.

Mae'r paneli hyn yn gwbl annibynnol ar yr Awdurdod Derbyn (Awdurdod Lleol a/neu gorff llywodraethu'r ysgol) a wnaeth y penderfyniad y mae’r apêl yn cael ei wneud yn ei erbyn.

Mae'r hawl i apelio yn berthnasol i bob cam o dderbyniadau addysg gorfodol. Nid yw addysg feithrin yn orfodol ac nid oes hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod derbyn ar lefel meithrin.

Bydd panel Apeliadau Derbyn yn cynnwys o leiaf un aelod lleyg (h.y. person heb brofiad personol o reoli ysgol neu ddarparu addysg) ac o leiaf un person sydd â phrofiad ym myd addysg.

Panel Apêl Gwaharddiadau

Gall rhieni apelio yn erbyn gwaharddiad parhaol eu plentyn o ysgol. Bydd Panel Gwaharddiadau yn cynnwys tri neu bump o banelwyr, un yn aelod lleyg, un sydd ar hyn o bryd yn gweithio ym maes addysg neu reoli addysg ac un sydd, neu sydd wedi bod yn llywodraethwr ysgol am 12 mis yn olynol o fewn y 6 mlynedd diwethaf. Bydd yr aelod lleyg yn cadeirio’r panel.

Ydych chi'n cael bod ar y Panel Apêl Derbyniadau?

Efallai y bydd amgylchiadau pan nad ydych yn gymwys i eistedd ar Banel Apêl Derbyniadau:

  • Ni chewch eistedd ar unrhyw banel Apêl Derbyniadau os ydych yn aelod o'r Awdurdod Lleol (e.e. cynghorydd) neu os ydych wedi cael unrhyw gysylltiad â'r Awdurdod Lleol.
  • Ni chewch eistedd ar unrhyw Banel Apêl os ydych yn cael eich cyflogi gan yr Awdurdod Lleol, ond caniateir i athrawon fod yn banelwyr.
  • Ni chewch eistedd ar baneli Apêl Derbyniadau penodol os ydych yn aelod o gorff llywodraethu'r ysgol sy’n destun yr apêl, ond nid yw hyn yn golygu eich bod wedi'ch gwahardd rhag eistedd ar baneli apêl mewn perthynas â derbyn i ysgolion eraill.
  • Ni chewch eistedd ar baneli Apêl Derbyniadau penodol os oeddech yn rhan o benderfyniad i beidio â derbyn y plentyn sy’n apelio neu os oeddech yn rhan o unrhyw drafodaethau ynglŷn â sut y gwnaed y penderfyniad.

Ydych chi'n cael bod ar y Panel Apêl Gwaharddiadau?

Efallai y bydd amgylchiadau pan nad ydych yn gymwys i eistedd ar Banel Apêl Gwaharddiadau:

  • Os ydych yn aelod o'r Awdurdod Lleol neu gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw
  • Os mai chi yw'r pennaeth, neu’n athro yn yr ysgol dan sylw neu unrhyw berson sydd wedi bod ag swydd debyg o fewn y 5 mlynedd diwethaf
  • Os ydych yn gyflogedig gan yr Awdurdod Lleol ac eithrio fel pennaeth neu athro neu athrawes
  • Os oes gennych chi unrhyw gysylltiad â'r Awdurdod Addysg Lleol neu unrhyw berson a grybwyllir yn y pwyntiau bwled uchod, neu wedi cael cysylltiad ar unrhyw adeg, neu os oes gennych unrhyw gysylltiad â'r disgybl dan sylw neu â'r digwyddiad a arweiniodd at ei wahardd.

Pa sgiliau rydym yn chwilio amdanynt:

  • Y gallu i wrando yn ddiduedd a gwerthuso dadleuon a thystiolaeth a gyflwynwyd gan y ddwy ochr
  • Pendantrwydd - Bydd rhaid gwneud penderfyniad ar yr apêl yn fuan ar ôl gwrando ar yr apêl
  • Hyblygrwydd – bydd apeliadau yn gyffredinol yn cael eu clywed yn ystod oriau gwaith, a fyddwch yn gallu mynychu? Bydd eich argaeledd bob amser yn cael ei geisio cyn y gwneir trefniadau terfynol.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud y rôl werthfawr hon, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r ffurflen gais atodedig erbyn yr 4yp ar yr 31ain o Orffennaf 2024; bydd hyn yn ein cynorthwyo i benderfynu pa panel y byddech yn fwyaf addas i wasanaethu arno.

Ar ôl ei dychwelyd, bydd y ffurflen hon yn cael ei hystyried gan y Pennaeth Addysg. Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad hwn yn ysgrifenedig erbyn canol mis Awst 2024 ac, os cewch eich derbyn fel aelod o'r panel, cewch eich gwahodd i hyfforddiant.

Ffurflen gais

Ffurflen Gais Aelodaeth y Paneli Apelau Derbyn a Gwaharddiadau Ysgol Cyngor Sir Ddinbych, Sir Fflint a Chyngor Wrecsam 2024 (MS Word, 100KB)

Logos Awdurdod Lleol