Datblygiadau arfaethedig fyddai’n mynd i gyn-gais mân ddatblygiad
Datblygiad arfaethedig
|
Mae mân geisiadau yn gymwys lle
|
Adeiladu anheddau lle
mae nifer yr anheddau sydd i'w creu yn hysbys
|
Mae hyd at 9 o anheddau newydd
|
Adeiladu anheddau lle
nad yw nifer yr anheddau sydd i'w creu yn hysbys
|
Nid yw arwynebedd y safle yn fwy na 0.49 hectar
|
Adeiladu adeiladau (heblaw anheddau)
pan fo’r arwynebedd gofod llawr allanol gros i'w greu yn hysbys
|
Nid yw’r cynnydd yn y gofod llawr allanol gros yn fwy na 999m²
|
Adeiladu adeiladau (heblaw anheddau) pan
nad yw’r arwynebedd gofod llawr allanol gros i'w greu yn hysbys
|
Nid yw arwynebedd y safle yn fwy na 0.49 hectar
|
Newid o bwys yn y defnydd o adeilad
|
Nid yw’r gofod llawr allanol gros yn fwy na 999m²
|
Newid o bwys yn y defnydd o dir
|
Nid yw arwynebedd y safle yn fwy na 0.49 hectar
|
Ceisiadau mawr
Datblygiadau arfaethedig fyddai’n mynd i gyn-gais datblygiad mawr
Datblygiad arfaethedig
|
Mae ceisiadau mawr yn gymwys lle
|
Adeiladu anheddau lle
mae nifer yr anheddau sydd i'w creu yn hysbys
|
Mae rhwng 10 a 24 o anheddau newydd
|
Adeiladu anheddau lle
nad yw nifer yr anheddau sydd i'w creu yn hysbys
|
Mae arwynebedd y safle yn fwy na 0.49 hectar ond ddim mwy na 0.99 hectar
|
Adeiladu adeiladau (heblaw anheddau)
pan fo’r arwynebedd gofod llawr allanol gros i'w greu yn hysbys
|
Mae’r cynnydd yn y gofod llawr allanol gros yn fwy na 999m² ond yn llai na 1,999m2
|
Adeiladu adeiladau (heblaw anheddau) pan
nad yw’r arwynebedd gofod llawr allanol gros i'w greu yn hysbys
|
Mae arwynebedd y safle yn fwy na 0.49 hectar ond ddim mwy na 0.99 hectar
|
Newid o bwys yn y defnydd o adeilad
|
Mae'r gofod llawr allanol gros yn fwy na 999m² ond yn llai na 1,999m²
|
Newid o bwys yn y defnydd o dir
|
Mae arwynebedd y safle yn fwy na 0.49 hectar ond ddim mwy na 0.99 hectar
|
Gweithrediadau Eraill
|
Ennill a gweithio mwynau neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion gwaith mwynau
|
Gweithrediadau Eraill
|
Datblygu gwastraff
|
Ymgynghori cyn gwneud cais cynllunio
Mae gofyniad ar ymgeiswyr i gyflwyno adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn gwneud cais cynllunio. Noder y bydd cyflwyno PAC yn ofyniad dilysu ar gyfer pob cais mawr o 1 Awst 2016. Mae canllawiau manwl ar y gofynion ar gyfer ymgynghoriad cyn gwneud cais cynllunio ar gael ar
wefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).
Efallai y bydd y dolenni canlynol yn ddefnyddiol wrth ymgynghori
Ar ôl cyflwyno cais cynllunio ar gyfer ceisiadau mawr
Mae gofynion newydd ar ôl cyflwyno cais cynllunio hefyd fel:
- Hysbysiad o Ddechrau Datblygiad ac Arddangos Hysbysiad
- Newidiadau ar ôl Cyflwyno Cais Cynllunio
Ceir manylion am y gofynion hyn ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau mawr
Ar gyfer ceisiadau mawr a ganiatawyd ar neu ar ôl 16 Mawrth 2016, mae gofyniad i ddefnyddio’r hysbysiadau canlynol. Mae manylion ar sut maent yn cael eu defnyddio i'w gweld ar
wefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).
- Hysbysiad o Ddatblygiad yn Dechrau – i gael ei anfon at yr Awdurdod Lleol
- Hysbysiad i'w arddangos ar y safle tra bod datblygu’n cymryd lle
Ceisiadau mawr mawr
Datblygiadau arfaethedig fyddai’n mynd i gyn-gais datblygiad mawr pwysig
Datblygiad arfaethedig
|
Mae ceisiadau mawr pwysig yn gymwys lle:
|
Adeiladu anheddau lle
mae nifer yr anheddau sydd i'w creu yn hysbys
|
Mae hyd at 25 o anheddau newydd
|
Adeiladu anheddau lle
nad yw nifer yr anheddau sydd i'w creu yn hysbys
|
Mae arwynebedd y safle yn fwy na 0.99 hectar
|
Adeiladu adeiladau (heblaw anheddau)
pan fo’r arwynebedd gofod llawr allanol gros i'w greu yn hysbys
|
Mae’r cynnydd yn y gofod llawr gros allanol yn fwy na 1,999m²
|
Adeiladu adeiladau (heblaw anheddau) pan
nad yw’r arwynebedd gofod llawr allanol gros i'w greu yn hysbys
|
Mae arwynebedd y safle yn fwy na 0.99 hectar
|
Newid o bwys yn y defnydd o adeilad
|
Mae’r gofod llawr allanol gros yn fwy na 1,999m²
|
Newid o bwys yn y defnydd o dir
|
Mae arwynebedd y safle yn fwy na 0.99 hectar
|
Ymgynghori cyn gwneud cais cynllunio
Mae gofyniad ar ymgeiswyr i gyflwyno adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn gwneud cais cynllunio. Noder y bydd cyflwyno PAC yn ofyniad dilysu ar gyfer pob cais mawr o 1 Awst 2016. Mae canllawiau manwl ar y gofynion ar gyfer ymgynghoriad cyn gwneud cais cynllunio ar gael ar
wefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).
Efallai y bydd y dolenni canlynol yn ddefnyddiol wrth ymgynghori
Ar ôl cyflwyno cais cynllunio ar gyfer ceisiadau mawr
Mae gofynion newydd ar ôl cyflwyno cais cynllunio hefyd fel:
- Hysbysiad o Ddechrau Datblygiad ac Arddangos Hysbysiad
- Newidiadau ar ôl Cyflwyno Cais Cynllunio
Ceir manylion am y gofynion hyn ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau mawr
Ar gyfer ceisiadau mawr a ganiatawyd ar neu ar ôl 16 Mawrth 2016, mae gofyniad i ddefnyddio’r hysbysiadau canlynol. Mae manylion ar sut maent yn cael eu defnyddio i'w gweld ar
wefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).
- Hysbysiad o Ddatblygiad yn Dechrau – i gael ei anfon at yr Awdurdod Lleol
- Hysbysiad i'w arddangos ar y safle tra bod datblygu’n cymryd lle
Cysylltwch â ni os rydech chi ddim yn siŵr pa fath o gymorth rydech angen cyn gwneud cais.
Sut i drefnu’r gwasanaeth hwn
I drefnu’r gwasanaeth hwn bydd angen i chi lenwi ffurflen cyngor cyn-ymgeisio a'i hanfon at planning@denbighshire.gov.uk neu ei phostio I Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ a hefyd gwneud taliad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu'r holl ddogfennau ychwanegol y gofynnwyd amdanynt pan fyddwch yn anfon eich ffurflen.
Ffurflen cyngor cyn gwneud cais (MS Word, 57KB)
Faint mae'n costio?
Mae'r taliadau am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn fel a ganlyn;
Math o gais |
Cost |
Ceisiadau Deiliaid Tai |
£25 |
Ceisiadau Mân |
£250 |
Ceisiadau mawr |
£600 |
Ceisiadau mawr mawr |
£1000 |
Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol |
£1,500 |
Fffioedd cyngor cyn cais (PDF, 320KB)
Sut ydw i'n talu?
Dylid cyflwyno’r ffi gyda’ch cais. Gellir ei dalu yn y dulliau canlynol:
- Cerdyn credyd/debyd trwy ffonio 01824 706727 (9am tan 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
- Siec yn daladwy i ‘Cyngor Sir Ddinbych’ bostio i Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ
Beth sy'n digwydd ar ôl gofyn am gyngor
Byddwn yn anfon llythyr atoch o fewn 5 diwrnod gwaith i roi gwybod i chi ein bod wedi cael eich ffurflen. Os nad ydych wedi anfon y taliad cywir neu wybodaeth ofynnol, yna byddwn yn cysylltu â chi ac yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud.
Os ydym wedi cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, ein nod yw darparu cyngor ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod.
Fel lleiafswm, dylai ymgeiswyr ar gyfer datblygiadau gan ddeiliaid tai ddisgwyl cael y wybodaeth ganlynol yn eu hymateb ysgrifenedig:
- Hanes cynllunio perthnasol y safle
- Y polisïau cynllun datblygu perthnasol a ddefnyddir ar gyfer asesu’r cynnig datblygu
- Canllawiau cynllunio atodol perthnasol (e.e. dylunio, cadwraeth ac ati)
- Unrhyw ystyriaethau cynllunio materol eraill
- Asesiad cychwynnol o’r datblygiad arfaethedig, yn seiliedig ar y wybodaeth uchod.
Ar gyfer pob cynnig datblygu arall, dylai ymgeiswyr dderbyn yr holl wybodaeth a amlinellwyd uchod, yn ogystal â pha un a ofynnir am unrhyw gyfraniadau Adran 106 neu Lefi Seilwaith Cymunedol a syniad o faint a nifer y cyfraniadau hyn.
Gwybodaeth Gyfrinachol
Gall cyfrinachedd gwybodaeth sy’n gysylltiedig â thrafodaethau cyn gwneud cais fod yn destun ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Mae'r Ddeddf a'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer rhai eithriadau o'r angen i ddatgelu gwybodaeth sensitif fasnachol ac mewn achosion lle bo ymgeiswyr yn ystyried bod gwybodaeth benodol yn eithriedig rhag gofynion y Ddeddf neu'r Rheoliadau, dylid darparu’r cyfiawnhad dros eu sefyllfa i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar adeg cyflwyno eich cais am gyngor cyn gwneud cais cynllunio.