Mae Cysylltiadau Gydol Oes yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o Sir Ddinbych sydd â phrofiad o ofal i gadw, neu i ailadeiladu perthnasoedd â phobl sydd, neu a oedd yn bwysig ac yn arbennig iddynt.
Pan fydd plant a phobl ifanc yn dod i mewn i’r system ofal, gallant golli cysylltiad â'r bobl a oedd yn bwysig iawn yn eu bywydau. Gall y bobl bwysig hyn gynnwys:
- Teulu
- Ffrindiau
- Cymdogion
- Staff yn yr ysgol
- Gofalwyr Maeth
- Gweithwyr Cymdeithasol
- Unrhyw un y maen nhw wedi meithrin perthynas dda â nhw wrth dyfu i fyny, ac yr hoffech chi barhau â'ch perthynas â nhw, neu ailgysylltu â nhw
Sut mae’n gweithio?
Caiff Cysylltiadau Gydol Oes yn cael ei arwain gan y person ifanc, ac felly’n gwneud yn siŵr bod y person ifanc yn cael ei gynnwys ym mhob un o’r camau, a’u bod yn nodi’r bobl yr hoffent gysylltu â nhw, a phwy yr hoffent fod yn rhan o’u cynllun. Gwneir y broses hon mewn modd cynlluniedig a strwythuredig, sy’n gwarchod diogelwch pawb.
Mae Cysylltiadau Gydol Oes yn helpu i ddatblygu perthnasoedd parhaol ar gyfer plant a phobl ifanc, a gallai hefyd helpu o ran:
- Dysgu mwy am eu siwrnai eu hunain a chael gwell syniad o’u hanes,
- Cael gwell synnwyr o hunaniaeth a datblygu cysylltiadau gwirioneddol â phobl,
- Bod â rhywun i droi atynt ac yno ar eu cyfer. A chael rhywun i rannu amseroedd hapus gyda nhw.
Cysylltwch â ni
Anfonwch e-bost atom os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Cysylltiadau Gydol Oes neu os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y posibilrwydd o gael atgyfeiriad Cysylltiadau Gydol Oes.