Os ydych chi’n cael problemau symud o gwmpas yn ddiogel, hyd yn oed gyda help cyfarpar, efallai gallem roi ychydig o gefnogaeth i chi i’ch helpu i barhau i fyw adref.
Pan fydd eich anghenion ymarferol wedi cael eu hasesu gan un o’n ymarferwyr gofal cymdeithasol, gallwn lunio pecyn gofal tymor byr a fydd yn rhoi help ymarferol i chi a chefnogaeth i adfer neu i wella eich annibyniaeth. Galwn hyn yn ‘ail-alluogi’. Mae llawer o bobl sydd wedi dod atom am help wedi canfod mai’r cyfan maent ei angen ydi cyfnod o ail-alluogi i adfer eu hannibyniaeth. Fodd bynnag, efallai y cytunwn fod gennych anghenion gofal parhaus, hyd yn oed ar ôl cyfnod o ail-alluogi. Gallai hyn gynnwys gweithiwr gofal yn galw i’ch helpu i fynd i’ch gwely a chodi ohono, symud o un ystafell i’r llall, a’ch helpu i ddefnyddio’r toiled neu’r bath os oes angen.
Pwy all gael help?
Mae help ar gael i bobl dros 18 oed sy’n byw yn Sir Ddinbych, ac a fyddai angen help ymarferol o ganlyniad i salwch neu fod yn fregus, colli golwg neu glyw, anableddau corfforol neu ddysgu.
Sut ydw i'n cael help?
Er mwyn gweld faint o help sydd ei angen arnoch, bydd angen i ni gynnal asesiad. Dim ond sgwrs gydag ymarferydd gofal cymdeithasol ydi hyn, a bydd yn ein helpu i ddeall pa help a chefnogaeth yr edych efallai ei angen i fyw yn annibynnol yn eich cartref eich hun.
Fel arfer sgwrs yn eich cartref chi yw’r asesiad, ac rydym yn fwy na hapus os oes gennych ffrind, gofalwr neu berthynas gyda chi. Os ydych yn yr ysbyty, fe ddown i siarad gyda chi cyn i chi fynd adref, i drafod unrhyw help y byddwch efallai ei angen adref tra byddwch yn gwella.
Mae’r asesiad yn sgwrs ddwyffordd. Byddwn yn gofyn i chi ddweud tipyn amdanoch, a sut y credwch gallwn ni eich helpu a’ch cefnogi. Efallai byddwn hefyd yn gofyn barn pobl broffesiynol eraill sy’n eich adnabod, fel eich doctor, ond byddwn yn gofyn am eich caniatâd i wneud hyn. Byddwn hefyd yn ystyried anghenion eich teulu neu ofalwr.
I gael mwy o wybodaeth neu i ofyn am asesiad, cysylltwch â ni arlein neu ffoniwch ni ar 0300 456 1000.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl yr asesiad byddwn yn nodi eich anghenion ac yn cytuno arnynt gyda chi, a thrafod yr help a’r gefnogaeth sydd ar gael i’w cwrdd, yn unol â’ch sefyllfa bersonol chi.
Os ydych yn gymwys am help gennym, byddwn yn trefnu hyn o fewn 7 diwrnod o wneud yr asesiad.
Os nad ydych yn gymwys am help parhaus gennym, byddwn yn rhoi gwybodaeth a chyngor i chi ar wasanaethau eraill sydd ar gael i’ch helpu i fyw’n annibynnol. Os nad ydych yn fodlon gyda chanlyniad yr asesiad gallwch ofyn i ni edrych ar eich sefyllfa eto gyda chi. Os ydych dal yn anfodlon wedi hyn, gallwch gysylltu â ni i roi sylw, awgrym neu i wneud cwyn.