Os ydych chi’n profi neu wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol, neu os ydych chi’n poeni am rywun yna ffoniwch Llinell Gymorth Byw Heb Ofn (gwefan allanol) am ddim, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar 0808 80 10 800.
Gall cam-drin domestig gynnwys:
- trais corfforol
- bygythiadau llafar a bychanu
- cam-drin seicolegol ac emosiynol, fel ynysu oddi wrth anwyliaid neu gywilyddio
- trais rhywiol, fel treisio
- rheolaeth ariannol, fel atal arian
Sut i gael help
Mae yna nifer o sefydliadau a all helpu os byddwch chi neu rywun rydych chi’n eu hadnabod yn dioddef cam-drin domestig. Mae rhai o’r gwefannau isod yn rhoi’r opsiwn i guddio edrychiad tudalennau yn ogystal â newid i wefan wahanol yn sydyn i’ch helpu i edrych ar y safle’n ddiogel.
Gallwch ddod o hyd i fanylion y sefydliadau rydym yn gweithio â nhw yn y cyfeirlyfr Cefnogi Pobl.
Cefnogi Pobl: Cyfeirlyfr o Wasanaethau Cymorth (PDF, 451KB)
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn - 0808 80 10 800
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn (gwefan allanol) yn darparu gwasanaeth cyfeirio gyda gwybodaeth ddwyieithog 24 awr i helpu ac i arwain pobl sydd â phrofiad o gam-drin domestig neu drais rhywiol, sydd angen cyrchiad i wasanaethau fel cyngor, cymorth mewn argyfwng, diogelwch, a gwybodaeth ar eu hawliau a’u hopsiynau.
Childline
Gallwch gysylltu â ChildLine am unrhyw beth – does yr un broblem yn rhy fawr nac yn rhy fach. Os byddwch yn teimlo’n bryderus, yn ofnus, dan straen neu ddim ond eisiau siarad â rhywun, gallwch gysylltu â ChildLine.
Gwefan Childline (gwefan allanol)
Cymorth i Fenywod (WWA)
Cymorth i Fenywod ydi’r sefydliad ymbarél cenedlaethol sy’n cynrychioli Grwpiau Cymorth i Fenywod lleol yng Nghymru drwyddi draw. Mae eu grwpiau aelodau’n darparu gwasanaethau uniongyrchol i ferched a phlant sydd wedi profi cam-drin domestig neu sy’n ei brofi ar hyn o bryd.
Cymorth i Ferched Cymru (gwefan allanol).
Gwasanaethau cam-drin domestig lleol
Gwasanaeth / Ardal | Rhif ffôn |
Aberconwy |
01492 872992 |
Colwyn |
01492 534705 |
Glyndŵr |
01745 814494 |
Gogledd Sir Ddinbych |
01745 337104 |
Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru |
0300 30 30 159 |
BAWSO (Black Association Women Step Out) - llinell gymorth 24 awr
|
0800 731 8147 |
Gweithredu ar Gam-drin Pobl Hŷn |
08088 088 141 |
Broken Rainbow (Cymorth i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol) |
08452 604460 |
MEDA (Dynion sy’n profi cam-drin domestig) |
01686 610391 |
Llinell gymorth Dyn Wales / Dyn Cymru i ddynion |
0808 801 0321 |
Uned Diolgelwch Trais Teuluol / Domestic Abuse Safety Unit (DASU) - Conwy (gwefan allanol) |
01492 534 705 |