Rhagfyr 2024
3 Rhagfyr: Gweithgarwch crefftau’r Nadolig
Gwneud cardiau ar gyfer y Nadolig neu ar gyfer rhywun arbennig i’w gymryd adref i ffrindiau a theulu.
Fe fyddwn ni’n cael trafodaeth am arferion a chredoau crefyddol gwahanol, yn cynnwys Cristnogaeth a’r ystyr y tu ôl i’r Nadolig. Fe fyddwn ni hefyd yn siarad am werth rhoi anrhegion.
10 Rhagfyr: Crefftau Nadolig a gwisgo i fyny
Fe all pobl ifanc wisgo rhywbeth Nadoligaidd fel siwmper neu ategolyn i ddathlu’r Nadolig neu eu credoau eu hunain.
Fe fydd pobl ifanc yn cael y cyfle i bobi ac addurno cwcis neu greu hosanau.
Fe gawn ni drafodaeth am draddodiadau a meddwl am un y gallwn ni ei fabwysiadu yn y ganolfan ieuenctid.
17 Rhagfyr: Noson Bingo a ffilmiau Nadoligaidd
Fe fyddwn ni’n dathlu’r sesiwn olaf cyn gwyliau’r Nadolig gyda gêm o bingo ffilmiau Nadolig, gyda danteithion siocled poeth Swis-rôl Siocled.
Fe fyddwn ni’n gwylio ffilm Nadoligaidd ac yn dosbarthu’r holl addurniadau i’w cymryd adref.