Y Mix Nos Wener @ Canolfan Ieuenctid Rhuthun

Grŵp cymdeithasol yw’r Mix Nos Wener i bobl ifanc 13+ oed sydd yn cyfrif eu hunain yn LHDT+, ac mae ar agor i’r rheini sydd yn gyfeillgar ac sy’n cefnogi’r gymuned. Caiff ei ddarparu mewn partneriaeth gyda Young & Mindful (gwefan allanol). Bob wythnos byddwn yn ymgysylltu mewn gweithgareddau rhyngweithiol a’r nod yw ymestyn a datblygu sgiliau cymdeithasol a chreadigrwydd.

Mynd yn syth i:

Y Mix Nos Wener @ Canolfan Ieuenctid Rhuthun

Oriau agor

Nos Wener 7pm tan 9pm: ar gyfer pobl ifanc 13 oed a throsodd.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Darganfod beth sy’n digwydd yn y Mix Nos Wener.

Medi 2024

Medi 2024

20 Medi: Cwrdd â’r tîm LHDT+

Cyfle i gymdeithasu â chwrdd â phobl LHDT+ eraill. Mae croeso i chi ddod â ffrind gyda chi sy’n ein cefnogi ni a’n hunaniaeth. Byddwn yn cymryd rhan mewn gemau hwyliog a rhyngweithiol i dorri’r iâ gan ddod â phawb ynghyd a dod i adnabod ein gilydd.


27 Medi: Creu darn o waith celf fel grŵp

Gyda’n gilydd, byddwn yn creu darn o waith celf i’w roi ar y wal drwy addurno cynfas fechan yr un yn cynrychioli ein hunaniaeth holistaidd. Yna, byddwn yn gludo pob cynfas yn ei thro i greu ‘wal’, a fydd yn mynd tuag at achos da.

Hydref 2024

Hydref 2024

4 Hydref: Noson gwis gyda gwobrau

Byddwn yn rhannu i dimau o 2 neu 3 ac yn ateb gymaint o gwestiynau â phosibl i ennill gwobrau. Bydd y cwestiynau wedi’u teilwra i oedran a gallu’r grŵp. Bydd gwobrau ar gyfer y cyntaf, yr ail a’r trydydd.

Gwaith cartref: Rhestr o’ch 3 hoff gân.


11 Hydref: Noson gerddoriaeth

Cyfle i ddod i adnabod ein gilydd dwy wrando ar hoff ganeuon ein gilydd. Rhannwch eich 3 hoff gân gyda ni a pham eich bod yn eu hoffi.


18 Hydref: Dillad sy’n cyfleu fy hunaniaeth

Rydym ni’n mynd i gynnal ein sioe ffasiwn ein hunain. Gwisgwch ddillad sy’n cyfleu ‘pwy ydych chi neu bwy hoffech chi fod’. Gallwn greu dyluniadau newydd drwy ddarlunio gwisgoedd.


25 Hydref: Golygfa Brenhines y Sgrech

Cyfle i bobl ifanc baratoi ar gyfer noson fwyaf brawychus y flwyddyn. Gallwch ddylunio pwmpen frawychus, hwyliog neu ddoniol. Dewch i gerfio eich pwmpen gyda’n cerfiwr arbenigol i ddathlu’r Calan Gaeaf. Rhowch wybod i ni am unrhyw alergeddau er mwyn i ni fedru paratoi ar gyfer y sesiwn nesaf.

Tachwedd 2024

Tachwedd 2024

1 Tachwedd: Gwyliau Hanner Tymor

Dim sesiwn yr wythnos yma.


8 Tachwedd: Bwyta gofalgar

Bydd cyfle i bobl ifanc roi cynnig ar amrywiaeth o fwydydd blasus a maethlon i ddatblygu arferion bwyta iach. Byddwn yn defnyddio ein synhwyrau ac yn arbrofi gydag eitemau newydd, a bydd cyfle i chi ddod â’ch hoff fwyd i’w rannu gydag eraill.

Gwaith cartref: tynnwch lun o’r ymennydd, gan ychwanegu gwybodaeth bersonol, symbolau neu liwiau sy’n ein cynrychioli ni. (Peidiwch â nodi eich enw ar y llun!)


15 Tachwedd: ‘Dyfalu Pwy!’

Bydd y bobl ifanc yn dod â’u lluniau ymennydd i’r sesiwn ac yn eu rhoi ar y bwrdd i’w rhannu â gweddill y grŵp. Byddwn yn edrych ar luniau ein gilydd ac yn dyfalu pwy mae’r lluniau’n eu cynrychioli. Yna, byddwn yn trafod pam ein bod yn tybio pa lun sy’n cynrychioli pob unigolyn ac yn trafod y ddelweddaeth a ddefnyddiwyd i ffurfio ein lluniau.


22 Tachwedd: Symudiadau ac anadlu ystyriol

Bydd pobl ifanc yn dysgu am dechnegau anadlu a sut gallwn reoli ein hunain mewn sefyllfaoedd emosiynol. Byddwn yn rheoli ein corff ac yn dysgu sut i gadw’n heini drwy’r symudiadau syml hyn.


29 Tachwedd: Sesiwn ymgynghori grŵp

Bydd pobl ifanc a’r tîm LHDT+ yn gweithio gyda’i gilydd i ddewis gweithgareddau ar gyfer y tymor nesaf ac yn nodi’r adnoddau angenrheidiol. Byddwn yn trefnu sioe dalent. Byddwn yn dewis ffilm i’w gwylio ar noson ffilmiau ac yn dewis danteithion (mae’n rhaid i’r ffilm fod yn addas ar gyfer pobl dan 16 oed).

Rhagfyr 2024

Rhagfyr 2024

6 Rhagfyr: Creu addurniadau Nadolig a threfnu’r sioe dalent

Bydd pobl ifanc yn penderfynu pwy fydd yn cymryd rhan yn y sioe dalent a pha adnoddau fydd eu hangen arnynt. Nid cystadleuaeth fydd y sioe hon, ond cyfle i ddathlu ein talentau. Byddwn yn creu ein haddurniadau Nadolig ein hunain (darperir deunyddiau).


13 Rhagfyr: Noson ffilmiau

Byddwn yn mwynhau gwylio’r ffilm a ddewiswyd gennych heno. Darperir danteithion a diodydd meddal (gan ystyried alergeddau).

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, defnyddiwch y ddolen islaw:

Cofrestrwch gyda’r Mix Nos Wener yng Nghlwb Ieuenctid Rhuthun (13 oed a hŷn)

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mynediad i bobl anabl
  • WiFi am ddim
  • Bwrdd pŵl
  • Tennis bwrdd
  • Hoci aer
  • Bwrdd pêl-droed
  • Playstation
  • Cegin
  • Deunyddiau celf a chrefft

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Mae Shilpa a Geraldine o Young and Mindful yn arwain y sesiynau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau mae modd siarad â nhw wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Mesurau Diogelwch Covid

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Canolfan Ieuenctid Rhuthun
Drill Hall
30 Borthyn
Rhuthun
LL15 1NT

Cysylltwch â’r Mix Nos Wener yng Nghlwb Ieuenctid Rhuthun arlein

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi: maes parcio Lôn Dogfael

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.