Ionawr 2025
7 Ionawr: Dim sesiwn
Dim sesiwn yr wythnos yma.
14 Ionawr: Paned a sgwrs
Cyfle i groesawu aelodau newydd ar ôl egwyl y Nadolig ac i’r bobl ifanc gael sgwrs am faterion sy’n berthnasol iddyn nhw dros baned o de.
21 Ionawr: Diwrnod Martin Luther King
Fe fyddwn ni’n siarad am ein gwahaniaethau, ac yn eu dathlu nhw, gyda gweithgaredd celf sydd yn cefnogi gwrth-hiliaeth.
Bwyd: Brechdanau caws a ham wedi’u crasu.
28 Ionawr: Wythnos Noson Burns
Fe fydd pobl ifanc yn gwneud cawl cynnes i’w fwynhau tra’n dysgu am Noson Burns. Fe fyddan nhw hefyd yn creu Anghenfil Loch Ness, ac fe fydd yna wobr ar gyfer yr un gorau!.