Hyfforddiant Lleoliadau sy’n Annog Cyfathrebu
Bydd yr hyfforddiant Lleoliadau sy’n Annog Cyfathrebu yn darparu amrywiaeth o strategaethau ac adnoddau i chi gefnogi iaith, lleferydd a chyfathrebu mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar
Bydd y sesiwn yn ailedrych ac yn adeiladau ar yr hyfforddiant blaenorol a gafwyd gan y Tîm Allgymorth Cyn Ysgol, a bydd yn cynnwys amrywiaeth o strategaethau cyfathrebu e.e. cymorth gweledol, Makatann, caneuon pontio.
Pryd a lle fydd y cyrsiau’n cael eu cynnal?
Cynhelir hyfforddiant Lleoliadau sy’n Annog Cyfathrebu yng Nghanolfan Datblygiad Iaith Gymraeg ar:
- Dydd Llun 10 Mawrth 2025 o 12:30pm tan 3:30pm
- Dydd Llun 10 Mawrth 2025 o 6pm tan 9pm
- Dydd Gwener 13 Mehefin 2025 o 9am tan 12 noon
- Dydd Gwener 13 Mehefin 2025 o 12:30pm tan 3:30pm
Gwybodaeth am y lleoliad
Cyfeiriad Canolfan Datblygiad Iaith Gymraeg yw:
Canolfan Hamdden Llanelwy (Ysgol Glan Clwyd)
Dyffryn Clwyd, Ffordd Dinbych Uchaf
Llanelwy
LL17 0RP
Parcio
Ychydig iawn o leoedd parcio sydd ar gael yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy. Mae lle parcio ychwanegol ar gael ar ochr Ysgol Glan Clwyd sydd agosaf at Ddinbych, a dylid ei ddefnyddio ar gyfer sesiynau’r pnawn oherwydd y bysiau ysgol.
Sicrhewch nad ydych chi'n parcio mewn lleoedd parcio'r canolfan hamdden. Mae’r lleoedd hyn wedi'u cyfyngu i'w defnyddio gan ddefnyddwyr Canolfan Hamdden Llanelwy.
Pwy sy’n cael dod?
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer :
- staff darparwyr gofal plant blynyddoedd cynnar yn Sir Ddinbych
- staff blynyddoedd cynnar mewn ysgolion
- gwasanaethau cefnogi cyn ysgol yr Awdurdod Lleol
- staff sefydliadau ambarél
Hyd at 2 aelod o staff o bob lleoliad
Sut i gymryd rhan
Mae'n rhaid i chi archebu lle i gymryd rhan ar hyfforddiant hwn.
Llenwch un ffurflen archebu ar gyfer bob unigolyn.
Archebwch le ar y hyfforddiant Lleoliadau sy’n Annog Cyfathrebu