Ymgynghoriad Strategaeth Toiledau Lleol 2024-2027 (drafft) 

Hoffem glwyed eich barn ar ein Strategaeth Toiledau Lleol

Beth ydym yn ei wneud?

Rydym yn ymgynghori ar ein Strategaeth Toiledau Lleol Drafft, sy'n cynnwys cynllun gweithredu.

Yr ydym yn croesawu sylwadau gan breswylwyr ac ymwelwyr i Sir Ddinbych.

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

Yn unol â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mae’n ddyletswydd arnom baratoi a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer Sir Ddinbych.

Cam cyntaf datblygu ein strategaeth oedd asesu’r angen am doiledau ym mhob tref a phentref yn Sir Ddinbych.  Cwblhawyd y gwaith hwn erbyn mis Hydref 2024. 

Mae’r strategaeth ddrafft hon yn cynnwys adborth a chanfyddiadau o’r asesiad o angen a gynhaliwyd, ac mae’n cynnwys cynllun gweithredu yn dangos sut y byddwn yn diwallu’r anghenion a nodwyd.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Hoffem glwyed eich barn ar ein Strategaeth Toiledau Lleol

Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?

Bydd ymatebion a dderbynnir i’r holiadur hwn o gymorth i lywio’r Strategaeth Toiledau Lleol derfynol.

Sut ellwch chi gymryd rhan?

Cymerwch ran yn ein harolwg

Gellir cwblhau ein harolwg ar-lein.

Dweud eich dweud ar ein Strategaeth Toiledau Lleol (drafft) 2024 (gwefan allanol)

Gellir cael copïau papur o'r arolwg a'u dychwelyd o unrhyw un o Lyfrgelloedd Cyngor Sir Ddinbych neu’r Siop Un Alwad yn ystod oriau agor arferol y Llyfrgell.

Ebostiwch:

toiledaucyhoeddus@sirddinbych.gov.uk

Ysgrifennu at:

Gwasaenaeth Priffyrdd ac Amgylcheddol
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ

Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw: 12 Chwefror 2025.

Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?

Bydd y wybodaeth hon ar gael yn fuan.

Adborth

Bydd y wybodaeth hon ar gael yn fuan.