Strategaeth Toiledau Lleol Cyngor Sir Ddinbych : Ymgynghoriad Asesiad o Angheinion (wedi'i cwblhau)
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nawr ar gau
Dweud eich dweud ynglŷn â sut ddylai’r Cyngor reoli ei Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer 2024-2027.
Beth ydym yn ei wneud?
Rydym yn ymgynghori ar sut rydym yn mynd i’r afael â, ac yn rheoli, darpariaeth toiledau cyhoeddus yn Sir Ddinbych yn y dyfodol.
Pam ydym ni'n gwneud hyn?
Yn unol â gofynion Rhan 8 Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017, mae gofyn i Awdurdodau Lleol fel Cyngor Sir Ddinbych ddatblygu a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Cyhoeddus.
Dylai’r Strategaeth nodi sut rydym yn asesu’r angen am doiledau cyhoeddus yn Sir Ddinbych, a sut byddwn yn rheoli’r angen hwn.
Sylwer: nid oes gofyniad i Gyngor Sir Ddinbych fod yn berchen ar neu gynnal a chadw unrhyw doiledau cyhoeddus, dim ond sicrhau bod Strategaeth ar waith i sicrhau fod anghenion yn cael eu bodloni.
Beth yw toiled cyhoeddus?
Cyfleusterau toiled y gall y cyhoedd eu defnyddio yw toiledau cyhoeddus (a elwir weithiau yn gyfleustodau cyhoeddus). Gall y rhain gynnwys blociau toiledau pwrpasol, neu doiledau o fewn adeiladau presennol megis swyddfeydd, siopau, atyniadau i ymwelwyr, gwestai a bwytai.
Gellir codi tâl am ddefnyddio toiledau cyhoeddus, ond i gael eu hystyried fel toiled cyhoeddus, ni fydd unrhyw ffioedd eraill cysylltiedig. Er enghraifft, ystyrir toiled mewn caffi lle gofynnir i chi brynu diod neu fwyd cyn defnyddio’r toiled fel toiled preifat i gwsmeriaid yn hytrach na thoiled cyhoeddus.
Sut ydym yn asesu’r angen am doiledau cyhoeddus yn Sir Ddinbych?
Mae’r canllawiau statudol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth yn nodi y dylem ystyried data ystadegol yn cynnwys:
- Poblogaeth breswylwyr arferol yn nhermau niferoedd cyffredinol
- Ystyriaeth ychwanegol ar gyfer gwahaniaethau mewn rhywedd, oed, anabledd neu gyflwr iechyd cronig ac ati a allai effeithio ar allu unigolyn i ddefnyddio’r toiled
- Ystyriaeth ychwanegol ar gyfer amrywiadau tymhorol yn nifer yr ymwelwyr o’r tu allan i’r gymuned honno
- Asesiad o leoliadau poblogaidd neu brysur o fewn pob cymuned
- Asesiad o argaeledd ac oriau agor yr holl doliedau cyhoeddus o fewn pob cymuned - yn cynnwys y rheiny a gynhelir gan y Cyngor Sir yn ogystal â’r rhai a gynhelir gan ddarparwyr eraill yn cynnwys darparwyr preifat fel archfarchnadoedd, bwytai, caffis ac ati
- Ymgynghoriad gyda chymunedau, busnesau a sefydliadau neu elusennau lleol sy’n cefnogi unrhyw un a allai fod â mwy o angen i ddefnyddio toiledau cyhoeddus
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Hoffem glywed eich barn.
Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?
Bydd eich barn yn helpu i lywio fersiwn terfynol o’n dogfen Asesu Anghenion, a fersiwn ddiwygiedig o’n Strategaeth Toiledau Cyhoeddus.
Sut ellwch chi gymryd rhan?
Cymerwch ran yn ein harolwg
Rydym wedi creu arolwg ymgynghori sydd ar agor i:
- Breswylwyr Sir Ddinbych ac ymwelwyr/twristiaid Sir Ddinbych
- Cynghorwyr Sir a chynrychiolwyr Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
- Elusennau a sefydliadau trydydd sector sy’n cefnogi pobl a all fod ag anghenion ychwanegol neu ystyriaethau o ran defnyddio’r toiled
- Busnesau a hoffai gofrestru diddordeb mewn canfod mwy am ein Cynllun Toiledau Cymunedol
Mae'r arolwg hwn yn nawr ar gau
Gellir cael copïau papur o'r arolwg a'u dychwelyd o unrhyw un o Lyfrgelloedd Cyngor Sir Ddinbych neu’r Siop Un Alwad yn ystod oriau agor arferol y Llyfrgell.
Ysgrifennu at:
Paul Jackson
Pennaeth Gwasanaeth: Priffyrdd ac Amgylcheddol
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ
Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw: 15 Medi 2024.
Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?
Byddwn yn rhoi adborth ar ymgynghoriad yr Asesiad Anghenion yn yr adran 'adborth' isod. Byddwn hefyd yn ysgrifennu at unrhyw un sy'n dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf pan fyddwn yn barod i ymgynghori ar ein Strategaeth Toiledau Lleol Ddrafft 2024-2027
Adborth
- Fe welodd 34,872 o bobl negeseuon am yr ymgynghoriad ar gyfryngau cymdeithasol
- ymerodd 1,419 o bobl ran yn yr ymgynghoriad
- Roedd 65-85% o bobl yn cefnogi pob un o awgrymiadau’r Cyngor am doiledau preswyl
- Roedd 75-84% o bobl yn cefnogi pob un o awgrymiadau’r Cyngor am ofynion ychwanegol ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio, poblogaeth anabl a thwristiaid/ymwelwyr tymhorol
- Roedd 60% o bobl yn barod i dalu am ddefnyddio toiledau cyhoeddus
- Roedd 67% o bobl eisiau i’r Cyngor sefydlu Cynllun Toiledau Cymunedol
- • Dywedodd 65% o bobl y byddent yn fwy tebygol o gefnogi busnesau sy’n cymryd rhan mewn Cynllun Toiledau Cymunedol
Rydym wedi defnyddio'r safbwyntiau a roddwyd yn yr ymgynghoriad i lunio ein Strategaeth Ddrafft Toiledau Lleol 2024-2027.
Fe fyddwn ni’n ymgynghori ar y Strategaeth Ddrafft Toiledau Lleol ym mis Rhagfyr 2024 a mis Ionawr 2025.