Gwelliannau i osodiad ffordd Pwll y Grawys (Dinbych)

Rydym yn edrych i ail-ddylunio cyffordd Pwll y Grawys yn Ninbych. Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi.

Beth ydym yn ei wneud?

Rydym yn edrych i ail-ddylunio cyffordd Pwll y Grawys yn Ninbych.

Mae Rhaglen Grantiau Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru’n ariannu datblygiad y prosiect hwn sy’n cefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau cerdded a beicio yn yr ardal

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

Mae ardal Pwyll y Grawys yn Ninbych Uchaf (tuag at ochr ddeheuol y dref) gyda chyffordd brysur a llawer o fysys lleol yn gwneud defnydd ohoni yn ogystal â chysylltu Stryd y Bont/Stryd Fawr gyda Stryd Henllan a Ffordd y Ffair

Mae nifer o bryderon diogelwch wedi cael eu codi gan breswylwyr lleol a Chynghorwyr ynghylch y safle dros y blynyddoedd, ac rydym bellach mewn sefyllfa i ddechrau deall y pryderon hyn mewn mwy o fanylder gyda’r bwriad o ail-ddylunio’r gyffordd o bosib yn y dyfodol

Yn ystod ein hymgysylltiad cyhoeddus diwethaf ym mis Ebrill 2024, fe wnaethom lunio rhestr o brif faterion, a gyda’r prif faterion yma mewn golwg, mae gennym ddau ddyluniad posibl i bawb eu gweld.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Hoffem glywed eich barn.

Hoffem eich gwahodd i i fynychu sesiwn gwybodaeth i’r cyhoedd i siarad â’r swyddogion Diogelwch Ffyrdd ac ymgynghorwyr rheoli traffig arbenigol, neu i gymryd rhan yn ein harolwg ymgynghori byr.

Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?

Fe fydd eich barn yn ein helpu ni i fireinio ein dau ddyluniad ymhellach, a chreu cynllun gwella diogelwch ffordd sydd yn gweithio i bawb.

Sut ellwch chi gymryd rhan?

Trefniadwyd dwy sesiwn galw heibio yn Neuadd y Dref Dinbych ar 19 a 20 Tachwedd 2024. Tua 100 o bobl wedi dod i weld y dyluniadau a rhoi eu barn.

Cymerwch ran yn ein harolwg

Gellir cwblhau ein harolwg ar-lein.

Dweud eich dweud ar y ddau ddyluniad posibl ar gyfer Pwll y Grawys, Dinbych (gwefan allanol)

Gellir cael copïau papur o'r arolwg a'u dychwelyd yma

Llyfrgell Dinbych
Sgwâr y Neuadd, Dinbych
LL16 3NU

Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw 5 Ionawr 2025.

Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?

Bydd y wybodaeth hon ar gael yn fuan.

Adborth

Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau.