Dweud eich dweud: Sut mae'r Cyngor yn ei gwneud? (wedi'i cwblhau)

Mae'r ymgynghoriad hwn yn nawr ar gau
Helo. Sut hwyl mae'r Cyngor yn ei gael arni?
Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau i chi am Sir Ddinbych fel lle a hefyd am y Cyngor.
Fel rhan o fonitro ein cynnydd yn erbyn ein Cynllun Corfforaethol, ac i fod yn siŵr ein bod yn gwneud popeth rydym ei angen o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, rydym yn gwahodd y grwpiau canlynol i gymryd rhan yn yr arolwg hwn:
- Preswylwyr Sir Ddinbych
- Staff y Cyngor
- Cynghorwyr Sir
- Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned
- Busnesau lleol
- Undebau Llafur
- Unrhyw randdeiliaid eraill y mae’r Cyngor yn gweithio gyda nhw, fel trydydd sector neu elusennau/mudiadau gwirfoddol
Datganiad preifatrwydd
Mae’r arolwg hwn yn ddienw ac ni fyddwn yn gofyn i chi am eich manylion cyswllt, oni bai eich bod am dderbyn diweddariadau ar waith y bydd y Cyngor yn ei wneud yn y dyfodol. Bydd y data a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio gan Gyngor Sir Ddinbych fel rhan o‘i waith monitro perfformiad ac i gyflawni rhwymedigaethau‘r Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. I gael mwy o wybodaeth am y mathau o ddata y gall y Cyngor ei gasglu, ewch i: www.sirddinbych.gov.uk/preifatrwydd.
Mae'r arolwg hwn yn nawr ar gau