Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol 2013-2023
Datblygu'r economi yw un o'n blaenoriaethau corfforol dros dymor y cyngor hwn. Mae'r Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol hon wedi cael ei datblygu i esbonio sut byddwn ni'n cyflawni'r amcan hwn.
Mae'r strategaeth hon yn amlinellu'n uchelgais i economi leol Sir Ddinbych a'r bendithion y disgwyliwn i dwf economaidd eu cynnig i'n trigolion.
Ein nod yn y pen draw yw i'n gweithredoedd dan y strategaeth hon ganiatáu i fusnesau fynd o nerth i nerth, gan gynnig swyddi o safon uchel, gyda chyflogau da, sy'n cynnig boddhad i'n trigolion a rhoi modd iddynt fwynhau ansawdd bywyd da yn ein trefi a'n cymunedau.
Os byddwn yn llwyddo gallwn ddisgwyl gweld:
- gostyngiad mewn diweithdra
- cynnydd mewn incwm aelwydydd
- gwell cyfraddau geni a chynaliadwyedd i fusnesau
- mwy o weithgarwch economaidd yn gyffredinol ar draws y sir.
Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol 2013-2023 (PDF, 2MB)