Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Bydd etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cael ei chynnal ar ddydd Iau, 2 Mai 2024.

Hysbysiad o Etholiad: Ethol Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer ardal Heddlu Gogledd Cymru, dydd Iau 2 Mai 2024 (PDF, 92KB)

Yng Ngogledd Cymru, bydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cael ei ethol i gynrychioli preswylwyr chwe sir / bwrdeistref sirol. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd y Cynghorau canlynol: 

  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 

Mae swyddog canlyniadau ym mhob ardal sy’n gyfrifol am drefnu a darparu’r bleidlais i’r etholwyr yn ei ardal.

Beth yw rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd?

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gwneud yn siŵr bod anghenion plismona eu cymunedau yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan ddod â chymunedau yn nes at yr heddlu ac yn magu hyder y cyhoedd. 

Mae’r Comisiynydd yn rhoi llais i’r cyhoedd ar y lefel uchaf bosib’, ac yn rhoi’r gallu i’r cyhoedd sicrhau bod eu heddlu yn atebol. 

Swyddog canlyniadau ardal yr Heddlu

Mae’r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu yn gyfrifol am ymdrin ag ymgeiswyr ac asiantiaid, cynnal y bleidlais, casglu’r canlyniadau llawn ar draws ardal Heddlu Gogledd Cymru a datgan y canlyniad. 

Mae Ian Bancroft, prif weithredwr Cyngor Wrecsam, wedi’i benodi yn Swyddog Canlyniadau ar gyfer Ardal Heddlu Gogledd Cymru. 

Pwy sy’n sefyll yn yr etholiad? 

Bydd manylion yr ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad yma ar gael ar wefan Dewiswch Fy Swyddog Comisiwn yr Heddlu a Throseddu (gwefan allanol) ar ôl 5 Ebrill 2024.

Sut ydw i’n pleidleisio yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd?

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio, gwneud cais am bleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy (yn cynnwys gwybodaeth am ID Pleidleiswyr) ar gael ar dudalen sut i bleidleisio.

Dyddiadau Pwysig

Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw dydd Mawrth, 16 Ebrill 2024

Cofrestru i bleidleisio (gwefan allanol)

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post yw 5pm ar ddydd Mercher, 17 Ebrill 2024.

Cofrestru i bleidleisio drwy'r post (gwefan allanol)

Y dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr yw 5pm ar ddydd Mercher 24 Ebrill 2024.

Cyflwynwch gais am ddull adnabod â llun i bleidleisio (a elwir yn 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr') (gwefan allanol)

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar ddydd Mercher, 24 Ebrill 2024.

Cofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy (gwefan allanol)

Rheolau newydd ar gyfer yr etholiad hwn

Ynglŷn ag ID Pleidleisiwr

Mae’n rhaid i bleidleiswyr dangos prawf adnabod ȃ llun er mwyn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen ID Pleidleisiwr.

Rheolau ymdrin â phleidleisiau post

Bydd eich pleidlais drwy’r post yn cael ei gwrthod os na chaiff ei dychwelyd yn y modd cywir.

  • Y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus i chi ddychwelyd eich pleidlais drwy’r post yw trwy ei phostio yn un o flychau postio’r Post Brenhinol, gan ddefnyddio’r amlen barod a ddarperir (amlen B). 
  • Cofiwch adael digon o amser i’ch pleidlais drwy’r post ein cyrraedd ni. Mae’n rhaid iddynt gyrraedd y Swyddog Canlyniadau Lleol cyn 10pm ar ddiwrnod y bleidlais. 
  • Os ydych chi’n dychwelyd eich pleidlais bost â llaw, er enghraifft i orsaf bleidleisio neu Neuadd y Sir, Rhuthun (mae’r cyfeiriad ar amlen B), mae angen i chi lenwi ffurflen yn awr. Bydd ein staff yn eich helpu chi gyda hyn. 
  • Gallwch ddychwelyd eich pleidlais bost eich hun a hyd at 5 o rai eraill fesul etholiad (cyfanswm o 6). 
  • Os ydych chi’n ymgyrchydd gwleidyddol, dim ond eich pleidlais bost eich hun y gallwch ei dychwelyd, a phleidleisiau post unrhyw berthnasau agos neu unigolyn rydych chi’n gofalu amdanynt yn rheolaidd. 
  • Pediwch â gadael eich pleidlais bost ym mlwch post unrhyw un o swyddfeydd y Cyngor.

Gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr

Mae arweiniad ac adnoddau helaeth i ymgeiswyr ac asiantwyr ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol (gwefan allanol). Mae hyn yn cynnwys:

  • yr hyn sydd arnoch angen ei wybod cyn sefyll mewn etholiad
  • gwariant yr ymgeiswyr
  • ymgyrchu 
  • enwebiadau
  • pleidleisiau post
  • diwrnod pleidleisio
  • dilysu a chyfrif
  • ar ôl yr etholiad

Dogfennau briffio ymgeiswyr

GOV.UK: Comisiynwyr heddluoedd a materion troseddu - ddogfennau briffio (gwefan allanol)

Dyddiadau allweddol

  • Sesiwn briffio Ymgeiswyr ac Asiantwyr (cyn yr enwebiadau): dydd Mawrth, 27 Chwefror 2024
  • Hysbysiad o etholiad: dydd Llun, 25 Mawrth 2024
  • Dosbarthu papurau enwebu: dydd Mawrth, Mawrth 26 2024 i ddydd Gwener, 5 Ebrill 2024 (rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith)
  • Dyddiad cau ar gyfer tynnu enwebiad yn ôl: dydd Gwener 5 Ebrill 2024 (erbyn 4pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer penodi asiantiaid etholiadol: dydd Gwener, 5 Ebrill 2024 (erbyn 4pm)
  • Datganiad am y Sawl a Enwebwyd: dydd Llun, 8 Ebrill 2024 (erbyn 4pm)
  • Sesiwn briffio Ymgeiswyr ac Asiantwyr (ar ôl yr enwebiadau): dydd Mawrth, 9 Ebrill 2024
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru: dydd Mawrth, 16 Ebrill 2024
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn neu addasu ceisiadau pleidlais drwy'r post: dydd Mercher, 17 Ebrill 2024 (erbyn 5pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr: dydd Mercher, 24 Ebrill 2024 (erbyn 5pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau dirprwy: dydd Mercher, 24 Ebrill 2024 (erbyn 5pm)
  • Cyhoeddi Hysbysiad Pleidlais: dim hwyrach na dydd Mercher, 24 Ebrill 2024 (erbyn 5pm)
  • Diwrnod y Bleidlais: dydd Iau, 2 Mai 2024
  • Proses Wirio a Chyfrif Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: dydd Gwener, 3 Mai 2024 (dechrau am 9am) os yw’n etholiad unigol; neu ddydd Sul, 5 Mai 2024 (dechrau am 9am) os yw wedi’i gyfuno ag Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU