Ein cyllideb

Y sefyllfa bresennol

Cyngor Sir Ddinbych yw un o gyflogwyr mwyaf y sir sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r gymuned ac yn cefnogi 95,000 o drigolion. Ei nod yw gweithredu mewn ffordd gynaliadwy er budd hirdymor cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.

Fel pob Awdurdod Lleol ar draws Cymru, mae sefyllfa ariannol y Cyngor yn hynod heriol ar hyn o bryd, ac mae angen am arbedion cyllideb sylweddol yn ddigynsail.

Pam fod y Cyngor yn wynebu bwlch ariannu?

Amcangyfrifir y bydd darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd – gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, casglu gwastraff ac ysgolion, yn costio £26m yn ychwanegol oherwydd cynnydd mewn prisiau, chwyddiant, a phwysau ar alw.

Er gwaethaf cynnydd disgwyliedig mewn cyllid o £5.6m (3%) gan Lywodraeth Cymru, mae hyn yn dal i adael bwlch ariannu o £20.4m. Fel Awdurdodau Lleol ledled Cymru, mae’n rhaid i'r Cyngor ddod o hyd i arian ychwanegol drwy arbedion ac effeithlonrwydd, taliadau am wasanaethau, cynnydd yn Nhreth y Cyngor neu drwy leihau neu dorri gwasanaethau.

Sut mae'r Cyngor yn bwriadu cau'r bwlch ariannu?

I gyflawni hyn, mae'r Cyngor wedi gofyn i bob gwasanaeth nodi a chynnig arbedion posibl. Ar y dudalen hon fe welwch y cynigion cyfredol.

Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych

Mae cynigion wedi'u cyflwyno i leihau oriau agor ar draws gwasanaeth llyfrgell Sir Ddinbych.

Mwy o wybodaeth

Newyddion: Cynigion i gwtogi oriau llyfrgelloedd Sir Ddinbych.

Dweud eich dweud

Ymgynghoriad: Ymgynghoriad ar Oriau Agor Llyfrgelloedd.

I gael gwybod mwy am sut mae’r Cyngor yn gwario arian, ewch i: