Cyngor ar ddiogelwch i leihau trosedd yn eich ardal chi
Eich cartref
Diogelwch yn y Cartref yw’r ffordd orau o leihau eich siawns o gael lladrad. Mae llawer o ladradau yn rai byrfyfyr, gyda lladron yn gweld ffenestr agored, neu ffordd arall o gael mynediad yn hawdd, ac yn cymryd siawns.
Os ydych yn mynd allan, dylech yn wastad gau a chloi pob ffenestr a drws allanol – hyd yn oed os nad ydych ond yn mynd allan am gyfnod byr.
Cynllun Argyfwng i'r Cartref (PDF, 407KB)
Pobl hŷn
Gall pobl hŷn deimlo’n fwy agored i rai troseddau, ond mewn gwirionedd maent yn llai tebygol o gael eu targedu. Gall ychydig o gamau syml helpu i leihau’r risg o drosedd.
- Cadwch restr o rifau defnyddiol wrth y ffôn. Gall y rhain gynnwys rhifau eich teulu, yr orsaf heddlu leol, y cyngor lleol ac ati.
- Peidiwch â chadw symiau mawr o arian parod yn eich cartref - yn hytrach defnyddiwch Fanc/Gymdeithas Adeiladu.
Troseddau stepen drws a masnachwyr ffug
Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n galw i’ch cartref yn bobl gonest; ond weithiau gall rhywun alw’n ddirybudd, gyda’r bwriad o dwyllo eu ffordd i mewn i’ch cartref. Os bydd rhywun yn galw i’ch gweld dylech;
- AROS Ydych chi’n disgwyl rhywun?
- A oes ganddynt apwyntiad?
- CADWYNO Defnyddiwch far neu gadwyn y drws cyn ei agor.
- GWIRIO Gofynnwch am gerdyn adnabod yr ymwelydd a darllenwch ef yn fanwl.
- Os oes gennych unrhyw amheuon, cadwch nhw allan.
Ewch i’r dudalen Troseddau stepen drws a masnachwyr ffug am fwy o gyngor.
Mwy o wybodaeth
Gallwch ddarllen ein llawlyfr diogelwch am fwy o wybodaeth neu ddod o hyd i aelod o’ch tîm Gwarchod Cymdogaeth agosaf neu heddlu lleol.
Llawlyfr diogelwch (PDF, 1.47MB)
Dod o hyd i’ch Gwarchod Cymdogaeth agosaf (gwefan allanol)
Dod o hyd i’ch tîm heddlu agosaf (gwefan allanol)