Dysgu a Thyfu: Pobl a Sgiliau
Nod y thema 'Dysgu a Thyfu: Pobl a Sgiliau' yw cefnogi darpariaeth dysgu a hyfforddi o ansawdd sy’n galluogi pobl o bob oed i gyflawni eu llawn botensial, yn bersonol ac yn broffesiynol.
Ymyriadau, allbynnau a chanlyniadau
Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Pobl a Sgiliau
Blwyddyn | Cyfalaf | Refeniw |
Blwyddyn 2 |
£0 |
£2,664,000 |
Blwyddyn 3 |
£0 |
£2,833,920 |
Ymyriadau
- W34: Cymorth cyflogaeth i bobl economaidd anweithgar: Cymorth un-i-un dwys a chofleidiol er mwyn symud pobl yn agosach at ddarpariaeth brif ffrwd ac at gael gafael ar gyflogaeth a'i chadw, gan gynnwys cymorth cofleidiol i bobl sy'n ymgymryd â phrentisiaethau, wedi'i ategu gan gymorth sgiliau bywyd a sgiliau sylfaenol ychwanegol a/neu arbenigol (digidol, Saesneg, mathemateg* ac ESOL) lle y ceir bylchau yn y ddarpariaeth leol. Gall y ddarpariaeth hon gynnwys prosiectau sy'n hyrwyddo pwysigrwydd gwaith er mwyn helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol a meithrin cadernid ariannol a llesiant yn y dyfodol. Mae'r carfanau disgwyliedig yn cynnwys pobl ag anghenion cymhleth lluosog (pobl ddigartref, pobl sy'n gadael gofal, cyndroseddwyr, pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau a dioddefwyr trais domestig), pobl ag anabledd a chyflwr iechyd, pobl dros 50 oed, menywod, pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a phobl o leiafrif ethnig, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i'r bobl hynny yn unig.
*drwy'r rhaglen Lluosi
- W35: Mae'r cyrsiau'n cynnwys darpariaeth sgiliau sylfaenol (digidol, Saesneg, mathemateg (drwy raglen Lluosi) ac ESOL), a sgiliau bywyd a sgiliau gyrfa** ar gyfer pobl nad ydynt yn economaidd anweithgar ac na allant gael mynediad at hyfforddiant arall na'r cymorth cofleidiol a nodir uchod. Fe'u hategir gan gymorth ariannol sy'n galluogi dysgwyr i gofrestru ar gyrsiau a chwblhau cymwysterau. Y tu hwnt i hynny, bydd yr ymyriad hwn hefyd yn cyfrannu at ddatblygu cydlyniant cymunedol a hwyluso gwell balchder dinesig cyffredin, gan arwain at well integreiddio i'r rheini sy'n cael cymorth ESOL.
**lle nad ydynt yn cael eu cynnig drwy ddarpariaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Lywodraeth Cymru.
- W36: Gweithgareddau megis gweithgareddau cyfoethogi a gwirfoddoli i wella cyfleoedd a hyrwyddo llesiant.
- W38: Cymorth wedi'i deilwra i helpu pobl mewn cyflogaeth nad ydynt yn cael eu cefnogi gan ddarpariaeth brif ffrwd i fynd i'r afael â rhwystrau i addysg a chyrsiau hyfforddiant. Mae hyn yn cynnwys helpu grwpiau sy'n debygol o adael y farchnad lafur yn gynnar i aros ynddi.
- W39: Cymorth ar gyfer ardaloedd lleol i gyllido anghenion sgiliau lleol. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau a chyrsiau technegol a galwedigaethol hyd at lefel 2 a hyfforddiant ar gyfer trwyddedau galwedigaethol sy'n berthnasol i anghenion ardal leol a chymwysterau gwerth uchel lle mae angen capasiti sgiliau ychwanegol na ellir ei ddarparu drwy gyllid prif ffrwd.
- W43: Cyllid i gefnogi trefniadau ymgysylltu ac i ddatblygu sgiliau meddalach pobl ifanc, gan ystyried gwaith Gyrfa Cymru/Cymru'n Gweithio.
Allbynnau
Allbynnau: Pobl a Sgiliau
Allbynnau | Targed (gwerth rhifiadol) |
Nifer y bobl economaidd anweithgar sy'n ymgysylltu â gwasanaethau cymorth gweithwyr allweddol (W34) |
575 |
Nifer y bobl economaidd anweithgar a gefnogir i ymgysylltu â’r system fudd-daliadau (W34) |
100 |
Nifer y bobl sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol sy'n cyrchu cymorth (W34) |
600 |
Nifer y bobl a gafodd gefnogaeth i gael mynediad at gyrsiau sgiliau sylfaenol (W34, W43) |
1,130 |
Nifer y bobl sy'n cyrchu cymorth iechyd meddwl a chorfforol sy'n arwain at gyflogaeth (W34) |
260 |
Nifer y bobl sy'n cael cymorth i chwilio am waith (W34) |
400 |
Nifer y bobl sy'n cael cymorth i gael gwaith (W34) |
295 |
Nifer y bobl sy'n cael cymorth i gynnal cyflogaeth (W34) |
100 |
Nifer yr ymgysylltiadau effeithiol rhwng gweithwyr allweddol a gwasanaethau ychwanegol (W34) |
315 |
Nifer y bobl a gefnogir i ennill cymhwyster (W34, W35, W38, W39, W43) |
970 |
Nifer y bobl a gefnogir i ymgysylltu â sgiliau bywyd (W35, W43) |
1,890 |
Nifer y bobl a gafodd gefnogaeth i gofrestru ar gwrs trwy ddarparu cymorth ariannol (W35) |
275 |
Nifer y bobl a gefnogir i gymryd rhan mewn addysg (W36) |
890 |
Nifer y cyfleoedd gwirfoddoli a gefnogwyd (W36) |
240 |
Nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni profiad gwaith (gwerth rhifiadol)(W36) |
345 |
Nifer y bobl sy'n ailhyfforddi (W36) |
80 |
Nifer y bobl mewn cyflogaeth sy'n ymgysylltu â'r system sgiliau (W38) |
80 |
Nifer y bobl sy'n cael cymorth i ennill trwydded alwedigaethol (W38, W39) |
130 |
Canlyniadau
Canlyniadau: Pobl a Sgiliau
Canlyniadau | Targed (gwerth rhifiadol) |
Nifer yr unigolion economaidd anweithgar sy’n ymgysylltu â’r system fudd-daliadau ar ôl cael cefnogaeth (W34) |
75 |
Nifer y cyfranogwyr gweithredol neu barhaus mewn grwpiau cymunedol o ganlyniad i gefnogaeth (W34) |
490 |
Nifer y bobl sy'n adrodd am fwy o gyflogadwyedd trwy ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a ariennir gan UKSPF (W34) |
475 |
Nifer y bobl â sgiliau sylfaenol ar ôl cael cefnogaeth (W34) |
140 |
Nifer y bobl mewn cyflogaeth â chymorth (W34) |
20 |
Nifer y bobl sy'n parhau i ymgysylltu â chymorth gweithwyr allweddol a gwasanaethau ychwanegol (W34) |
320 |
Nifer y bobl sy'n chwilio am swydd yn dilyn cymorth (gwerth rhifiadol)(W34) |
360 |
Nifer y bobl mewn cyflogaeth, gan gynnwys hunangyflogaeth, yn dilyn cymorth (W34, W35, W36) |
450 |
Nifer y bobl sy'n cynnal cyflogaeth am 6 mis (W34) |
90 |
Nifer y bobl mewn addysg/hyfforddiant ar ôl cael cefnogaeth (W35, W36, W39) |
930 |
Nifer y bobl sy’n profi llai o rwystrau strwythurol i gyflogaeth ac i ddarpariaeth sgiliau (W35, W36) |
1,230 |
Nifer y bobl sy’n gyfarwydd â disgwyliadau cyflogwyr, gan gynnwys safonau ymddygiad yn y gweithle (W36) |
595 |
Nifer y bobl sy'n ennill cymwysterau, trwyddedau a sgiliau (W38) |
60 |
Nifer yr unigolion economaidd weithgar sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant sgiliau prif ffrwd (W39) |
100 |
Cynnydd yn nifer y bobl yn ennill cymwysterau, trwyddedau a sgiliau (W43) |
Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd |
Cynnydd yn nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn cymorth sgiliau bywyd yn dilyn ymyriadau (W43) |
Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd |
Prosiectau
Y prosiectau ar gyfer y thema hon yw:
Darganfod mwy am prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.