Diweddariad Awst 2022
Diolch yn fawr i'r holl bartneriaid a gyfrannodd i ddatblygu elfen Sir Ddinbych yn y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ar gyfer Y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Bu i Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru weithio gyda'i gilydd mewn camau i greu cynllun rhanbarthol i'w gyflwyno ar 1 Awst. Roedd hyn ar lefel uchel iawn ac wedi'i lunio i ddatgloi’r dyraniadau i bob Awdurdod Lleol. Mae Cyngor Gwynedd yn arwain ar Gynllun Gogledd Cymru ar ran y chwe awdurdod.
Ni wnaeth prif ffocws y Cynllun Buddsoddiad Rhanbarthol yn bellach na dewis "ymyriadau". Roedd yr ymyriadau yn lledaenu dros 3 biler (Pobl a Sgiliau, Cefnogi Busnes Lleol, a Chymunedau a Lle) yn disgrifio’n effeithiol cwmpas y gweithgaredd cymwys.
Drwy ymgysylltiad â rhanddeiliaid, roeddem yn gallu penderfynu bod digon o angen/ diddordeb yn Sir Ddinbych i gynnwys 29 ymyriad yn ein hystyriaeth, ac mae hyn wedi’i adlewyrchu wrth ddrafftio Cynllun Rhanbarthol.
Nid yw Sir Ddinbych, fel yr Awdurdodau Lleol yn y rhanbarth wedi gofyn am geisiadau am gyllid ffurfiol na datganiadau o ddiddordeb ar hyn o bryd (fel y maent wedi mewn rhannau eraill o Gymru), ond wedi croesawu adborth ar y mathau o weithgaredd lleol sydd yn alinio gydag Ymyriadau Llywodraeth y DU.
Byddai rhaid i'r syniadau ddangos yn y pen draw sut y gallent ddarparu'r cynnyrch a deilliannau sy'n ofynnol yn Sir Ddinbych (a dangos aliniad strategol gyda dogfennau megis Cynllun Corfforaethol y Cyngor). Byddant yn cael eu rhannu gyda Bwrdd Partneriaeth Ymgynghorol, aelodaeth sy’n cael ei benderfynu gan Lywodraeth y DU, a fydd yn gwneud argymhellion i'r Cyngor ar gyfer buddsoddiad. Mae proses llywodraethu hwn yn cael ei ddatblygu, a byddwn yn diweddaru’r dudalen hon a rhannu rhagor o wybodaeth ar ôl ei ddatblygu.
Yn y cyfamser, anfonwch e-bost at sharedprosperityfund@denbighshire.gov.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.