Crynodeb adfywio tref y Rhyl 

Mae’r dudalen yn darparu gwybodaeth am brosiectau sydd wedi cael eu cynllunio ar gyfer y Rhyl yn ogystal â phrosiectau sydd wedi cael eu cwblhau yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae hefyd yn cynnwys prosiectau adnewyddu sylweddol mewn ardaloedd cyfagos sy’n gallu cael effaith ar y dref.

Cyflwyniad i'r Rhyl 

Mae y Rhyl yn gyrchfan lan y môr ar arfordir Gogledd-ddwyrain Cymru ac mae wedi’i leoli i’r dwyrain o afon Clwyd. 

Mae mwyafrif canol y dref mewn Ardal Gadwraeth ddynodedig, gan ei fod yn ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. 

Amcangyfrifir bod y boblogaeth breswylwyr ar gyfer yr ardal yn oddeutu 26,000 o bobl. 

Y Rhyl yw’r canol tref mwyaf yn Sir Ddinbych, yn nhermau maint a nifer yr unedau manwerthu.

Mae gan y dref sawl prosiect adfywio ar y gweill, yn cynnwys gwaith amrywiol ar hyd y promenâd. 

Prosiectau adfywio

Dewiswch un o’r canlynol i ddarganfod mwy am y prosiectau adfywio ar gyfer y Rhyl.

Prosiectau wedi’u cwblhau

Prosiectau adfywio y Rhyl wedi’u cwblhau

Mae’r canlynol yn brosiectau adfywio sydd wedi cael eu cwblhau yn y Rhyl ers 2018.

Adeiladau'r Frenhines

Trosolwg o’r prosiect: Prynu adeiladau i ganiatáu ar gyfer Cam 1 Neuadd y Farchnad a Gofod Digwyddiadau.

Cyllid: £3,000,000 - Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.


Depo Gerddi Botanegol, Cam 1

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu swyddfa newydd ac adeilad lles.

Cyllid: £1,200,000 - Cyngor Sir Ddinbych.


Hafan Deg

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu’r Ganolfan Ddydd.

Cyllid: £100,000 - Cronfa Taliadau Cyfalaf yn ôl Disgresiwn.


Ysgol Gatholig Crist y Gair

Trosolwg o’r prosiect: Roedd y prosiect a gwblhawyd yn yr haf 2020 yn darparu adeilad ysgol newydd i ddisgyblion rhwng 3 ac 16 oed i ddisodli’r hen Ysgol Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones. Cwblhawyd yr adeilad newydd ym mis Medi 2019 cyn i’r ddwy hen ysgol gael eu dymchwel a’u tirlunio i greu ardaloedd chwarae ar gyfer yr ysgol newydd yn ystod 2020.

Cyllid: £23,000,000 - Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.


40 Ffordd Brighton

Trosolwg o’r prosiect: Trawsnewid tai amlfeddiannaeth yn fflatiau.

Cyllid: £260,000 – Cyfrif Refeniw Tai Cyngor Sir Ddinbych a Grant Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru.


Hen Adeilad Swyddfa'r Post Fictoraidd

Trosolwg o’r prosiect: Prynu hen adeilad Swyddfa'r Post Fictoraidd, i ganiatáu ar gyfer ailddatblygu.

Cyllid: £110,000 - Cronfa Gyffredinol i’w dalu gan Gyfrif Refeniw Tai Cyngor Sir Ddinbych.


Hen siopau Granite a Next

Trosolwg o’r prosiect: Prynu hen eiddo Granite a Next, yn ogystal â 4 Ffordd Wellington, i ganiatáu ar gyfer ailddatblygu fel rhan o’r cynllun Byw Cyfoes.

Cyllid: £326,450 - Cyfrif Refeniw Tai Cyngor Sir Ddinbych a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.


45-47 Water Street

Trosolwg o’r prosiect: Adnewyddu i ddarparu fflatiau.

Cyllid: £490,000 - Tai Clwyd Alyn a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.


1 Ffordd y Cilgant

Trosolwg o’r prosiect: Trawsnewid lloches nos yn fflatiau.

Cyllid: £230,000 - Tai Clwyd Alyn a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.


58 Stryd Fawr

Trosolwg o’r prosiect: Prynu 58 Stryd Fawr, yr hen Holland & Barrett, i ganiatáu ar gyfer ailddatblygu.

Cyllid: £175,000 - Y Cyfrif Refeniw Tai a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.


Gofod Cydweithio Costigan’s

Trosolwg o’r prosiect: Prynu ac ailddatblygu Costigan’s yn ofod cydweithio.

Cyllid: £500,000 - Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.


123 – 125, 127-129 a 131 Stryd Fawr

Trosolwg o’r prosiect: Prynu eiddo a dymchwel 123-125 Stryd Fawr, i ganiatáu ar gyfer ailddatblygu Parc Poced Porth Canol Tref y Rhyl.

Cyllid: £425,000 - Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.


Adeiladau'r Frenhines

Trosolwg o’r prosiect: Cam 1 Neuadd y Farchnad a Gofod Digwyddiadau.

Cyllid: £10,254,000 - Trawsnewid Trefi ac Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru.


Llys Anwyl, Ffordd Churton

Trosolwg o’r prosiect: Trawsnewid bloc o swyddfeydd yn fflatiau.

Cyllid: £1,900,000 - Y Cyfrif Refeniw Tai.


Uwchraddio’r nodweddion dŵr

Trosolwg o’r prosiect: Uwchraddio ac atgyweirio 3 o nodweddion dŵr addurnol yn y Rhyl.

Cyllid: £42,000 - Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.


SC2

Trosolwg o’r prosiect: Dymchwel yr Heulfan ac adeiladu SC2.

Cyllid: £15,000,000 – Cyngor Sir Ddinbych, Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig a Chyngor Tref y Rhyl.


Rhyl Pavilion Development

Trosolwg o’r prosiect: Uwchraddio Pafiliwn y Rhyl.

Cyllid: £2,400,000 – Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.

Prosiectau presennol

Prosiectau adfywio presennol yny Rhyl

Mae’r prosiectau canlynol wedi sicrhau cyllid ac un ai’n cael eu hadeiladu neu’n cael eu datblygu yn barod i’w hadeiladu.


Byw Cyfoes a Siopau Annibynnol

Trosolwg o’r prosiect: Adnewyddu hen siopau Granite a Next i greu llety preswyl ar y lloriau uchaf a gofod masnachol ar y llawr gwaelod.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £1,866,000


58 Stryd Fawr

Trosolwg o’r prosiect: Adnewyddu’r hen Holland & Barrett i gyd-fynd â’r Cynllun Next a Granite.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £510,000


Buddsoddiad mewn Llifogydd Arfordirol yn y Rhyl / Prestatyn

Trosolwg o’r prosiect: Gwelliannau i amddiffynfeydd llifogydd arfordirol.

Cyllid: Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £63,000,000


Hen Adeilad Swyddfa'r Post Fictoraidd

Trosolwg o’r prosiect: Trawsnewid yn fflatiau ac adnewyddu’r unedau masnachol.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £1,113,000


Gwelliannau i’r Parth Cyhoeddus yn y Gerddi Botaneg

Trosolwg o’r prosiect: Gwelliannau yn y Gerddi Botaneg.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Gwerth y prosiect: £100,000


Estyniad i Ganolfan y Dderwen, y Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Estyniad i Ganolfan y Dderwen i ganiatáu ar gyfer ymestyn y ddarpariaeth gofal plant a sefydlu darpariaeth Cylch Meithrin. Mae’r gwaith mewnol wedi’i gwblhau, a bydd y gwaith allanol yn cael ei gwblhau’n fuan.

Cyllid: Grant Cyfalaf Gofal Plant Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £1,200,000


2-16 Aquarium Street

Trosolwg o’r prosiect: Trawsnewid teras o hen dai amlfeddiannaeth yn dai.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £2,600,000


Epworth Lodge, Ffordd Brighton

Trosolwg o’r prosiect: Trawsnewid hen gartref gofal yn llety brys i deuluoedd.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Chynllun Digartrefedd Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £450,000


Hen Salon Goldilocks, 39-41 Stryd y Frenhines

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu i ddarparu fflatiau newydd.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £1,650,000


Uwchraddio’r Parth Cyhoeddus i Ganol Tref y Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Uwchraddio’r parth cyhoeddus, yn cynnwys gwyrddu ar draws Canol Tref y Rhyl a gwelliannau teithio llesol.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro y DU.

Gwerth y prosiect: £5,500,000


Parc Poced Porth Canol Tref y Rhyl – 123-131 Stryd Fawr

Trosolwg o’r prosiect: Dymchwel, clirio’r safle ac ailddatblygu i greu mannau gwyrdd.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro y DU.

Gwerth y prosiect: £900,000


Gwelliannau i Barth Cyhoeddus Adeilad y Frenhines

Trosolwg o’r prosiect: Gwella’r elfennau allanol yng Ngham 1 adeilad Marchnad y Frenhines.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro y DU.

Gwerth y prosiect: £500,000


Cynllun Promenâd Canol y Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Symleiddio’r parêd, yn cynnwys teithio llesol a llwybrau cerdded. Cysylltu’r Dref â’r traeth a chreu Porth gyda pharth cyhoeddus naturiol a mwy gwyrdd wrth uno’r cynnig hamdden.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro y DU.

Gwerth y prosiect: £4,000,000


Parth Cyhoeddus Promenâd y Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Gwella Promenâd y Rhyl, yn cynnwys gosod dodrefn stryd newydd.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Gwerth y prosiect: £300,000


3-23 Stryd Edward Henry

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu tai newydd ar safle’r hen fflatiau.

Cyllid: Tai Clwyd Alyn a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £1,050,000


Depo Gerddi Botanegol, Cam 2

Trosolwg o’r prosiect: Uwchraddio’r cyfleusterau storio a cherbydau presennol.

Cyllid: Cyfalaf Cyngor Sir Ddinbych

Gwerth y prosiect: £1,300,000

Prosiectau’r dyfodol

Prosiectau adfywio y Rhyl ar gyfer y dyfodol

Dydi’r prosiectau canlynol heb sicrhau cyllid eto ond mae rhywfaint o waith dichonoldeb, briff y prosiect a’r dyluniad cysyniadol wedi cael ei wneud.


Ysbyty Brenhinol Alexandra

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn ganolbwynt gofal iechyd a lles, gan ddarparu ystod o wasanaethau wedi’u hehangu a’u hail ddylunio mewn cyfleusterau sy’n bodoli eisoes a rhai newydd.

Gwasanaeth: Mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Gwerth y prosiect: £70,000,000


Maes Emlyn

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu hen dai gwarchod i ddarparu cartrefi newydd.

Gwasanaeth: Tai a Chymunedau.


50-56, 85-90 a 91-100 Rhodfa’r Gorllewin, 1-11 John Street a 35-41 Abbey Street

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu cartrefi newydd wrth y lan y môr ac ar safleoedd cyfagos.

Gwasanaeth: Tai a Chymunedau.


Datblygiadau Teithio Llesol

Trosolwg o’r prosiect: Datblygu llwybrau yn cynnwys y Bont-H, Gwelliannau Parhaus y Gogledd-ddwyrain, Datblygu Llwybr Teithio Llesol Dwyrain y Rhyl, Maes y Gog.


Marina’r Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Dichonoldeb datblygu ynghylch marina yn harbwr y Rhyl. O Restr Hir y Grŵp Ardal Aelodau ar gyfer Ymgynghoriad Cronfa Ffyniant Bro y DU.

Syniadau Prosiect

Syniadau ar gyfer prosiect adfywio y Rhyl

Syniad Prosiect yw awgrym ar y cam hwn heb unrhyw friff prosiect diffiniedig a lle nad oes unrhyw waith dichonoldeb wedi’i wneud.


Atgyweirio a sefydlogi Llyn Morol

Trosolwg o’r prosiect: O Restr Hir y Grŵp Ardal Aelodau ar gyfer Ymgynghoriad Cronfa Ffyniant Bro y DU.


Cam 2 a 3 Marchnad y Frenhines

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu gweddill safle Marchnad y Frenhines yn y dyfodol.


Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Wedi’i gynnwys yn Nogfen Strategaeth Tymor Canolig Cyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £200,000


Wal Harbwr y Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Wedi’i gynnwys yn Nogfen Strategaeth Tymor Canolig Cyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £1,500,000


Promenâd y Rhyl

Trosolwg o’r prosiect: Wedi’i gynnwys yn Nogfen Strategaeth Tymor Canolig Cyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £100,000


Canolfan Fusnes Morfa Clwyd

Trosolwg o’r prosiect: Wedi’i gynnwys yn Nogfen Strategaeth Tymor Canolig Cyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £500,000


Hen Safle Maes Parcio St Winefride, Ffordd Brighton

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu i ddarparu cartrefi newydd.

Dyddiad adolygu diwethaf

Cafodd yr wybodaeth hon ei diweddaru diwethaf ym mis Tachwedd 2024.