Crynodeb adfywio tref Rhuthun

Mae’r dudalen yn darparu gwybodaeth am brosiectau sydd wedi cael eu cynllunio ar gyfer Rhuthun yn ogystal â phrosiectau sydd wedi cael eu cwblhau yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae hefyd yn cynnwys prosiectau adnewyddu sylweddol mewn ardaloedd cyfagos sy’n gallu cael effaith ar y dref.

Cyflwyniad i huthun

Rhuthun yw Tref Sirol Sir Ddinbych.  Mae’n adnabyddus am ei Chastell o’r 13eg Ganrif, ac mae ganddi hen Garchar hefyd sydd bellach yn amgueddfa ac amrywiaeth o atyniadau eraill, yn cynnwys gerddi a chanolfan grefftau. 

Amcangyfrifir bod y boblogaeth breswylwyr ar gyfer yr ardal yn oddeutu 5,000 o bobl. 

Mae canol y dref yn llawn busnesau annibynnol ac mae’n un o’r trefi mwyaf ffyniannus yn y Sir. 

Prosiectau adfywio

Dewiswch un o’r canlynol i ddarganfod mwy am y prosiectau adfywio ar gyfer Rhuthun.

Prosiectau wedi’u cwblhau

Prosiectau adfywio Rhuthun wedi’u cwblhau

Mae’r canlynol yn brosiectau adfywio sydd wedi cael eu cwblhau yn Rhuthun ers 2018.

Llys Awelon Phase 2

Trosolwg o’r prosiect: Datblygu 35 uned ychwanegol o dai gofal ychwanegol ar hen safle Cartrefi Gofal Preswyl Awelon a Chanolfan Awelon.

Cyllid: £13 miliwn - Grant Tai Cymdeithasol a Grant Tai â Gofal.


Glasdir – Ysgol Penbarras / Ysgol Stryd y Rhos, Rhuthun

Trosolwg o’r prosiect: Roedd y prosiect a gwblhawyd ym mis Ebrill 2018 yn darparu adeiladau ysgol newydd ac wedi’u hehangu ar gyfer Ysgol Penbarras ac Ysgol Stryd y Rhos, yn ardal Glasdir yn Rhuthun.

Cyllid: Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru / Cyngor Sir Ddinbych.


Ysgol Carreg Emlyn, Clocaenog

Trosolwg o’r prosiect: Roedd y prosiect a gwblhawyd ym mis Mai 2019 yn darparu adeilad ysgol newydd i Ysgol Carreg Emlyn, i ddisodli’r hen adeiladau annigonol yng Nghlocaenog a Chyffylliog.

Cyllid: Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru / Cyngor Sir Ddinbych.


Ysgol Llanfair, Llanfair

Trosolwg o’r prosiect: Roedd y prosiect a gwblhawyd ym mis Chwefror 2020 yn darparu adeilad ysgol newydd i Ysgol Llanfair, i ddisodli’r adeilad a’r unedau symudol ar yr hen safle.

Cyllid: Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru / Cyngor Sir Ddinbych.

Prosiectau presennol

Prosiectau adfywio presennol yn Rhuthun

Mae’r prosiectau canlynol wedi sicrhau cyllid ac un ai’n cael eu hadeiladu neu’n cael eu datblygu yn barod i’w hadeiladu.>/p>


Gwelliannau Lles i Ddepo Lôn Parcwr

Trosolwg o’r prosiect: Gwelliannau iechyd, diogelwch a lles dros dro.

Cyllid: Cyfalaf Cyngor Sir Ddinbych

Gwerth y prosiect: £175,000


Cyfleusterau storio halen

Trosolwg o’r prosiect: Caffael ysgubor halen newydd.

Cyllid: Cyfalaf Cyngor Sir Ddinbych

Gwerth y prosiect: £1,300,000

Terfynau amser: Tendr i ddod


Gwyddelwern - Neuadd Gymunedol

Trosolwg o’r prosiect: Cyfleuster neuadd gymunedol newydd yng Ngwyddelwern, lle bwriedir ei lleoli ar safle Ysgol Bro Elwern. Mae cyllid wedi’i ddyfarnu ac mae’r dyluniadau cychwynnol wedi’u datblygu ar gyfer y cynllun.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU

Gwerth y prosiect: £1,400,000

Terfynau amser: Mawrth 2026


Cynllun Bryneglwys

Trosolwg o’r prosiect: Cyfleusterau cymunedol newydd ym Mryneglwys.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro y DU

Gwerth y prosiect: £392,000

Terfynau amser: Mawrth 2026


Tŵr Cloc Rhuthun

Trosolwg o’r prosiect: Adnewyddu nodweddion allanol tŵr y cloc.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU

Gwerth y prosiect: £200,000

Terfynau amser: Mawrth 2026


Sgwâr Sant Pedr

Trosolwg o’r prosiect: Gwaith traffig ar y gylchfan, gostegu traffig a gwaith parth cyhoeddus cysylltiedig ar y Sgwâr.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU

Gwerth y prosiect: £3,000,000

Terfynau amser: Mawrth 2026


Yr Hen Glwystai

Trosolwg o’r prosiect: Adfer ac ailwampio’r hen Glwystai yn llwyr. Darparu profiad gwledda masnachfraint cymunedol hefyd.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU

Gwerth y prosiect: £800,000

Terfynau amser: Mawrth 2026


Eglwys Sant Pedr

Trosolwg o’r prosiect: Gwelliannau i fynediad yr Eglwys a gwella’r profiad i ymwelwyr (lefelu’r llawr, gosod system wresogi newydd, galluogi gweithgareddau dan do mawr). Arwyddion dwyieithog.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU

Gwerth y prosiect: £700,000

Terfynau amser: Mawrth 2026


Nant Clwyd-y-Dre

Trosolwg o’r prosiect: Ailwampio adain y gorllewin adfeiliedig rhestredig Gradd I i lety gwyliau ac atgyweirio strwythur y gasebo deulawr.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU

Gwerth y prosiect: £500,000

Terfynau amser: Mawrth 2026


Cae Ddol

Trosolwg o’r prosiect: Llwybrau newydd, parc chwarae modern, mynedfa well a chysylltiad gyda’r thema Treftadaeth.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU

Gwerth y prosiect: £500,000

Terfynau amser: Mawrth 2026


Carchar / 46 Stryd Clwyd

Trosolwg o’r prosiect: Mynedfa newydd i’r Carchar o 46 Stryd Clwyd, siop amgueddfa, caffi a gofod ar gyfer arddangosfeydd amrywiol yn ogystal â dehongliad newydd o’r sied arfau.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU

Gwerth y prosiect: £300,000

Terfynau amser: Mawrth 2026

Prosiectau’r dyfodol

Prosiectau adfywio Rhuthun ar gyfer y dyfodol

Dydi’r prosiectau canlynol heb sicrhau cyllid eto ond mae rhywfaint o waith dichonoldeb, briff y prosiect a’r dyluniad cysyniadol wedi cael ei wneud.


Ysgubor Halen Rhuthun

Trosolwg o’r prosiect: Dogfen Strategaeth Tymor Canolig Cyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £400,000


Depo Lôn Parcwr

Trosolwg o’r prosiect: Dogfen Strategaeth Tymor Canolig Cyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £100,000


Cynlluniau Teithio Llesol

Trosolwg o’r prosiect: Datblygu cynlluniau yn cynnwys Stryd Llanrhydd a Glasdir – Goleuadau Stryd ar y Llwybr Teithio Llesol.

Gwerth y prosiect:


Estyniad i Ysgol Bro Elwern

Trosolwg o’r prosiect: Mae estyniad bach wedi’i gynllunio i wella’r cyfleusterau yn Ysgol Bro Elwern. Mae cymeradwyaeth i gyflwyno Achos Busnes ar gyfer Cyllid Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg wedi’i dderbyn.

Gwasanaeth: Gwasanaethau Addysg a Phlant.

Gwerth y prosiect: £1,400,000


Ysgol Brynhyfryd - canolfan drochi

Trosolwg o’r prosiect: Mae gwaith ailwampio wedi’u cynllunio i alluogi canolfan drochi er mwyn sefydlu’r Gymraeg yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun i gynorthwyo gyda throsglwyddo dysgwyr Cymraeg o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd.

Gwasanaeth: Gwasanaethau Addysg a Phlant.

Gwerth y prosiect: £1,600,000

Syniadau Prosiect

Syniadau ar gyfer prosiect adfywio Rhuthun

Syniad Prosiect yw awgrym ar y cam hwn heb unrhyw friff prosiect diffiniedig a lle nad oes unrhyw waith dichonoldeb wedi’i wneud.


Canolfan Grefft Rhuthun

Trosolwg o’r prosiect: Gwelliannau i Ganolfan Grefft Rhuthun.


43 Canol y Dre

Trosolwg o’r prosiect: Dod o hyd i ddefnydd amgen ar gyfer yr uned wag.


Lôn Parcwr, Cam 2

Trosolwg o’r prosiect: Uwchraddio’r cyfleusterau hen ffasiwn i sicrhau bod y depo yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn bodloni’r safonau gofynnol.

Dyddiad adolygu diwethaf

Cafodd yr wybodaeth hon ei diweddaru diwethaf ym mis Tachwedd 2024.