Crynodeb adfywio tref Llangollen

Mae’r dudalen yn darparu gwybodaeth am brosiectau sydd wedi cael eu cynllunio ar gyfer Llangollen yn ogystal â phrosiectau sydd wedi cael eu cwblhau yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae hefyd yn cynnwys prosiectau adnewyddu sylweddol mewn ardaloedd cyfagos sy’n gallu cael effaith ar y dref.

Cyflwyniad i Langollen

Mae Llangollen yn dref sy’n boblogaidd gyda thwristiaid ar hyd glannau’r Afon Dyfrdwy. 

Amcangyfrifir bod y boblogaeth breswylwyr ar gyfer yr ardal yn oddeutu 4,000 o bobl. 

Mae Llangollen yn adnabyddus am yr Eisteddfod Ryngwladol flynyddol, gŵyl gerddoriaeth a gynhelir ym mis Gorffennaf.  Mae’r atyniadau eraill i dwristiaid yn cynnwys Rheilffordd Treftadaeth Llangollen i Gorwen a Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.

Prosiectau adfywio

Dewiswch un o’r canlynol i ddarganfod mwy am y prosiectau adfywio ar gyfer Llangollen.

Prosiectau wedi’u cwblhau

Prosiectau adfywio Llangollen wedi’u cwblhau

Mae’r canlynol yn brosiectau adfywio sydd wedi cael eu cwblhau yn Llangollen ers 2018.

Llangollen 2020

Trosolwg o’r prosiect: Gwelliannau i’r Parth Cyhoeddus a Theithio Llesol.

Cyllid: £250,000 gan Drawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ac arianwyr amrywiol eraill.


Uwchgynllun Teithio Llesol Llangollen

Trosolwg o’r prosiect: Creu Uwchgynllun Teithio Llesol Llangollen.

Cyllid: Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Prosiectau presennol

Prosiectau adfywio presennol yn Llangollen

Mae’r prosiectau canlynol wedi sicrhau cyllid ac un ai’n cael eu hadeiladu neu’n cael eu datblygu yn barod i’w hadeiladu.>/p>


Pedair Priffordd Fawr

Trosolwg o’r prosiect: Gwella Pedair Priffordd Fawr Llangollen yn cynnwys llwyfan gwylio, gwella’r paneli gwybodaeth a’r parth cyhoeddus.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Gwerth y prosiect: £1,285,000

Terfynau amser: Mawrth 2025


Wenffrwd

Trosolwg o’r prosiect: Gwella cysylltiadau tref i ac o Warchodfa Natur Wenffrwd a’r Ganolfan Iechyd, yn ogystal â gwelliannau i’r llwybrau cerdded a beicio o fewn y Warchodfa.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Gwerth y prosiect: £275,000

Terfynau amser: Mawrth 2025


Plas Newydd

Trosolwg o’r prosiect: Gwella’r profiad i ymwelwyr yn cynnwys gwelliannau i’r fynedfa a gwelliannau awyr agored.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Gwerth y prosiect: £121,990

Terfynau amser: Mawrth 2025


Rhaeadr y Bedol

Trosolwg o’r prosiect: Gwella’r isadeiledd i ymwelwyr yn Rhaeadr y Bedol yn cynnwys adnewyddu cyfleusterau, codi cyfleuster arlwyo a gwelliannau i gerddwyr o gwmpas y man gwylio.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Gwerth y prosiect: £291,500

Terfynau amser: Mawrth 2025


Gwelliannau i’r Parth Cyhoeddus ym Mharc Glan yr Afon

Trosolwg o’r prosiect: Uwchraddio’r parth cyhoeddus.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Gwerth y prosiect: £100,000

Terfynau amser: Rhagfyr 2024


Ysgol Bryn Collen / Ysgol Gwernant, Llangollen

Trosolwg o’r prosiect: Bydd y prosiect yn darparu cyfleusterau wedi’u huwchraddio ar safle a rennir Ysgol Bryn Collen ac Ysgol Gwernant yn Llangollen. Mae gwaith dichonoldeb yn cael ei wneud ar hyn o bryd.

Cyllid: Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £6,000,000


Brook Street/Pengwern

Trosolwg o’r prosiect: Cynllun Llwybr Teithio Llesol. Cafodd y prosiect ei flaenoriaethu yn dilyn cwblhau Uwchgynllun Teithio Llesol Llangollen ac ar hyn o bryd mae’n symud ymlaen o’r cam dylunio amlinellol i’r cam dylunio manwl.

Cyllid: Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru

Gwerth y prosiect:

Terfynau amser: 31 Mawrth 2027

Prosiectau’r dyfodol

Prosiectau adfywio Llangollen ar gyfer y dyfodol

Dydi’r prosiectau canlynol heb sicrhau cyllid eto ond mae rhywfaint o waith dichonoldeb, briff y prosiect a’r dyluniad cysyniadol wedi cael ei wneud.

Cynlluniau Teithio Llesol

Trosolwg o’r prosiect: Datblygu a dylunio cynlluniau Map Rhwydwaith Teithio Llesol i ychwanegu at a chryfhau’r ‘Prif Gynllun’.

Gwasanaeth: Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych

Dyddiad adolygu diwethaf

Cafodd yr wybodaeth hon ei diweddaru diwethaf ym mis Tachwedd 2024.