Crynodeb adfywio tref Dinbych

Mae’r dudalen yn darparu gwybodaeth am brosiectau sydd wedi cael eu cynllunio ar gyfer Dinbych yn ogystal â phrosiectau sydd wedi cael eu cwblhau yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae hefyd yn cynnwys prosiectau adnewyddu sylweddol mewn ardaloedd cyfagos sy’n gallu cael effaith ar y dref.

Cyflwyniad i Ddinbych

Mae Dinbych yn dref farchnad ganoloesol wedi’i lleoli yn Nyffryn Clwyd.

Amcangyfrifir bod y boblogaeth breswylwyr ar gyfer yr ardal yn oddeutu 10,000 o bobl gyda diwylliant Cymraeg cadarn.

Mae’r dref yn cynnig cymysgedd cyfleus o fanwerthu gyda digon o lefydd parcio.  Mae manwerthu a gwasanaethau yn canolbwyntio’n bennaf ar y gymuned leol a’r gefnwlad gyfagos. 

Mae canol y dref mewn Ardal Gadwraeth ac mae ganddi hanes cyfoethog gydag amrywiaeth o adeiladau pensaernïol sylweddol.

Yn ddiweddar, cafodd ardal ddiwydiannol ar ymyl y dref ei ehangu gan ddangos ymrwymiad i gyflogaeth leol. Mae gan y dref nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd, llyfrgell a theatr heb sôn am y castell a waliau hanesyddol.

Prosiectau adfywio

Dewiswch un o’r canlynol i ddarganfod mwy am y prosiectau adfywio ar gyfer Dinbych.

Prosiectau wedi’u cwblhau

Prosiectau adfywio Dinbych wedi’u cwblhau

Mae’r canlynol yn brosiectau adfywio sydd wedi cael eu cwblhau yn Ninbych ers 2018.


Y Fforwm

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu adeilad gwag ar gyfer defnydd masnachol cymysg, yn cynnwys caffi, unedau busnes a llety gwyliau.

Cyllid: Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.


Awel y Dyffryn

Trosolwg o’r prosiect: Mae Awel y Dyffryn yn gynllun tai gofal ychwanegol a agorodd yn 2021 gan Grŵp Cynefin mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, gan ddarparu 66 o unedau llety byw’n annibynnol.

Cyllid: Grŵp Cynefin, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.


Maes Y Goron/Maes Y Dre

Trosolwg o’r prosiect: Cynllun Teithio Llesol.

Cyllid: Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Prosiectau presennol

Prosiectau adfywio presennol yn Ninbych

Mae’r prosiectau canlynol wedi sicrhau cyllid ac un ai’n cael eu hadeiladu neu’n cael eu datblygu yn barod i’w hadeiladu.>/p>


Ailddatblygu Hen Ysbyty Gogledd Cymru

Trosolwg o’r prosiect: Cymorth ar gyfer dymchwel a gwaith galluogi i hwyluso adferiad y prif adeilad ac ailddatblygu’r safle.

Cyllid: Y Fargen Dwf, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a’r sector preifat.

Gwerth y prosiect: £70,000,000


Ysgol Plas Brondyffryn, Dinbych

Trosolwg o’r prosiect: Adeilad newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn a galluogi’r ysgol i weithredu o un safle yn Ninbych. Achos Amlinellol Strategol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir cais cynllunio tuag at ddiwedd 2023 a dechrau 2024.

Cyllid: Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £26,000,000


Prosiect Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dinbych

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn bodloni anghenion dinasyddion Dinbych a’r ardal leol yn y dyfodol. Yn cynnwys uwchraddio ac ehangu Cartref Gofal Preswyl Dolwen a datblygu canolbwynt iechyd a lles yn cynnwys meddygfa yng Nghaledfryn neu’n adeilad yr Inffyrmari (neu yn y ddau). Mae ar y cam dichonoldeb ar hyn o bryd.

Cyllid: Mewn partneriaeth â BIPBC - cyflwynwyd ffurflen Cam 0 ar gyfer Cyllid Cyfalaf Rhanbarthol Integredig Llywodraeth Cymru posibl fel rhan o’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gwerth y prosiect: £50,000,000


Ysgol Pendref, Dinbych

Trosolwg o’r prosiect: Uwchraddio’r cyfleusterau yn Ysgol Pendref. Mae gwaith dichonoldeb yn cael ei wneud ar hyn o bryd.

Cyllid: Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £8,000,000


Ysgol Uwchradd Dinbych

Trosolwg o’r prosiect: Ail-fodelu ac ailwampio’r adeilad ar gyfer Ysgol Uwchradd Dinbych. Mae’r briff dylunio ar gyfer y prosiect yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd mewn partneriaeth â’r ysgol.

Cyllid: Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £15,000,000


Darpariaeth Gofal Plant, Twm o’r Nant

Trosolwg o’r prosiect: Bydd cyfleuster newydd ar gyfer y ddarpariaeth Feithrin bresennol yn cael ei adeiladu ar safle presennol Ysgol Twm o’r Nant. Mae cyllid wedi’i ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru a bydd cyfarfod cyn-contract yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2023 cyn dechrau’r gwaith.

Cyllid: Grant Cyfalaf Gofal Plant Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £1,100,000


Llwyn Eirin

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu cartrefi Passivhaus ar safle tir glas.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Grant Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £4,400,000


Llwybr Teithio Llesol Ysgol y Santes Ffraid

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu cyswllt teithio llesol a rennir rhwng ‘cylchfan ATS’ ac Ysgol y Santes Ffraid. Mae’r prosiect yn cynnwys lledu’r droedffordd ddwyreiniol bresennol, ar hyd yr A543, i led addas i’w rannu gan gerddwyr a beicwyr. Mae’r prosiect yn estyniad o brosiect a wnaed ar hyd Ffordd y Rhyl yn 2023/24.

Cyllid: Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: I’w benderfynu, yn amodol ar werth y tendr.

Terfynau amser: 31 Mawrth 2025


Cynllun Teithio Llesol Pwll y Grawys

Trosolwg o’r prosiect: Cynllun Teithio Llesol ym Mhwll y Grawys.

Cyllid: Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.


Canolbwynt Cymunedol Farchnad Fenyn Dinbych

Trosolwg o’r prosiect: Ail-bwrpasu adeilad rhestredig Gradd II i greu canolfan iechyd, lles a diwylliant gydag amgueddfa ac archifau. Ymgorffori ardal ar gyfer gwaith / hyfforddiant.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Gwerth y prosiect: £1,200,000

Terfynau amser: Rhagfyr 2024

Prosiectau’r dyfodol

Prosiectau adfywio Dinbych ar gyfer y dyfodol

Dydi’r prosiectau canlynol heb sicrhau cyllid eto ond mae rhywfaint o waith dichonoldeb, briff y prosiect a’r dyluniad cysyniadol wedi cael ei wneud.


Gwasg Gee – Datblygiad Tai

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu’r hen ffatri brintio i greu llety preswyl.

Gwasanaeth: Datblygu Economaidd a Busnes Cyngor Sir Ddinbych


Cynlluniau Teithio Llesol

Trosolwg o’r prosiect: Datblygu cynlluniau yn cynnwys Home Bargains i Golomendy.

Gwasanaeth: Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych


Estyniad yn Ysgol Henllan

Trosolwg o’r prosiect: Estyniad i wella’r cyfleusterau yn Ysgol Henllan. Mae cymeradwyaeth i gyflwyno Achos Busnes ar gyfer Cyllid Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru wedi’i dderbyn.

Gwasanaeth: Gwasanaethau Addysg a Phlant Cyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £600,000


Estyniad yn Ysgol Bro Cinmeirch

Trosolwg o’r prosiect: Estyniad i wella’r cyfleusterau yn Ysgol Bro Cinmerich. Mae cymeradwyaeth i gyflwyno Achos Busnes ar gyfer Cyllid Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg wedi’i dderbyn.

Gwasanaeth: Gwasanaethau Addysg a Phlant Cyngor Sir Ddinbych

Gwerth y prosiect: £1,400,000


Gerddi Glasfryn

Trosolwg o’r prosiect: Prosiect i ailwampio ac ail-osod y ddarpariaeth breswyl yn Ysgol Plas Brondyffryn. Mae’r prosiect ar y cynllun cyfalaf 10 mlynedd ac wedi’i flaenoriaethu ar gyfer cyllid gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Gwasanaeth: Gwasanaethau Addysg a Phlant Cyngor Sir Ddinbych


Parc Pennant, Stryd Henllan

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu cartrefi newydd ar safle’r hen fflatiau Cyngor.

Gwasanaeth: Grŵp Cynefin

Syniadau Prosiect

Syniadau ar gyfer prosiect adfywio Dinbych

Syniad Prosiect yw awgrym ar y cam hwn heb unrhyw friff prosiect diffiniedig a lle nad oes unrhyw waith dichonoldeb wedi’i wneud.


Cyfnewidfa Bws

Trosolwg o’r prosiect: Garej Crosville – gwella’r gyfnewidfa bws, llochesi a gwybodaeth.

Feasibility work: Mae rhywfaint o waith wedi’i wneud sawl blwyddyn yn ôl ond bydd angen ei adolygu a’i ddiweddaru.


Adeilad Cymunedol Aberchwiler

Trosolwg o’r prosiect: Gwaith i wella Adeilad Cymunedol Aberchwiler. Prosiect i’w ddatblygu a’i gadarnhau.

Feasibility work: I'w ddatblygu.

Dyddiad adolygu diwethaf

Cafodd yr wybodaeth hon ei diweddaru diwethaf ym mis Tachwedd 2024.