Crynodeb adfywio tref Corwen

Mae’r dudalen yn darparu gwybodaeth am brosiectau sydd wedi cael eu cynllunio ar gyfer Corwen yn ogystal â phrosiectau sydd wedi cael eu cwblhau yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae hefyd yn cynnwys prosiectau adnewyddu sylweddol mewn ardaloedd cyfagos sy’n gallu cael effaith ar y dref.

Cyflwyniad i Gorwen 

Mae Corwen yn dref fechan ar ochr ddeheuol yr Afon Dyfrdwy yng Ngogledd Cymru. 

Amcangyfrifir bod y boblogaeth breswylwyr ar gyfer yr ardal yn oddeutu 2,500 o bobl.  Mae yno ddiwylliant Cymraeg cadarn, gyda thirnodau diwylliannol Cymraeg arwyddocaol yn y dref.

Mae’r economi leol yn cael ei nodweddu gan dwristiaeth, gweithgynhyrchu a ffermio.

Yn ddiweddar, mae’r dref wedi elwa o orsaf drenau newydd, a gafodd ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.   Disgwylir i’r orsaf roi hwb i dwristiaeth yn yr ardal. 

Prosiectau adfywio

Dewiswch un o’r canlynol i ddarganfod mwy am y prosiectau adfywio ar gyfer Corwen.

Prosiectau wedi’u cwblhau

Prosiectau adfywio Corwen wedi’u cwblhau

Mae’r canlynol yn brosiectau adfywio sydd wedi cael eu cwblhau yng Nghorwen ers 2018.

Canopi Platfform Rheilffordd

Trosolwg o’r prosiect: Gosod canopi, y gydran fwyaf gweledol, ar blatfform gorsaf Corwen.

Cyllid: Cynnig Cronfa Ffyniant Bro De Clwyd yn Llwyddiannus

Prosiectau presennol

Prosiectau adfywio presennol yng Nghorwen

Mae’r prosiectau canlynol wedi sicrhau cyllid ac un ai’n cael eu hadeiladu neu’n cael eu datblygu yn barod i’w hadeiladu.>/p>


Isadeiledd Canol y Dref

Trosolwg o’r prosiect: Gwella amwynder ac ymddangosiad Canol y Dref, yn cynnwys gwelliannau i adeilad amlwg yng Nghorwen.

Cyllid: Cynnig Cronfa Ffyniant Bro De Clwyd yn Llwyddiannus

Gwerth y prosiect: £763,450

Terfynau amser: Hydref 2024

Tudalennau cysylltiedig:


Maes Parcio Lôn Las

Trosolwg o’r prosiect: Gwelliannau i’r maes parcio yn cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan, ailwampio’r toiledau cyhoeddus a gwella arwyddion.

Cyllid: Cynnig Cronfa Ffyniant Bro De Clwyd yn Llwyddiannus

Gwerth y prosiect: £302,500

Terfynau amser: Hydref 2024

Tudalennau cysylltiedig:


Teithio Llesol Cynwyd i’r A5

Trosolwg o’r prosiect: Llwybr Teithio Llesol o Gynwyd yn cynnwys man croesi ar yr A5.

Cyllid: Cynnig Cronfa Ffyniant Bro De Clwyd yn Llwyddiannus

Gwerth y prosiect: £1,000, 000

Terfynau amser: Hydref 2024


Cyfleusterau storio halen

Trosolwg o’r prosiect: Caffael ysgubor halen newydd.

Cyllid: Cyfalaf Cyngor Sir Ddinbych

Gwerth y prosiect: £928,000

Terfynau amser: Tendr i ddod


Gwesty Cymunedol Owain Glyndwr

Trosolwg o’r prosiect: Sicrhau dyfodol Gwesty Owain Glyndwr.

Cyllid: Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU (gwefan allanol)

Gwerth y prosiect: £452,700

Terfynau amser: Yn aros am gyllid.

Syniadau Prosiect

Syniadau ar gyfer prosiect adfywio Corwen

Syniad Prosiect yw awgrym ar y cam hwn heb unrhyw friff prosiect diffiniedig a lle nad oes unrhyw waith dichonoldeb wedi’i wneud.

Pavilion

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu’r Pafiliwn.


Cysgod-y-Gaer

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu Cysgod y Gaer i ddarparu gwasanaethau gofal preswyl / tai gofal ychwanegol a fydd yn bodloni anghenion dinasyddion yn y dyfodol i gynnwys darpariaeth camu i fyny / camu i lawr a chanolfan iechyd a gofal cymdeithasol o bosibl. Lle bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn ceisio darparu gwasanaethau allgymorth i lety pobl hŷn Llygadog yng Nghorwen fel rhan o’r gwasanaeth.


Cam II y Cynllun Teithio Llesol

Trosolwg o’r prosiect: Parhau â’r llwybr teithio llesol o’r A5 i Gorwen.


Llyfrgell y Dref

Trosolwg o’r prosiect: Uwchraddio’r ddarpariaeth bresennol.

Dyddiad adolygu diwethaf

Cafodd yr wybodaeth hon ei diweddaru diwethaf ym mis Tachwedd 2024.