Ardrethi Busnes: Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi

Bwriad y Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi yw cefnogi busnesau gyda rhyddhad i eiddo annomestig sy’n cael eu defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel rhwydwaith gwresogi ac sy’n cyflenwi ynni thermol a gynhyrchir o ffynonellau carbon isel.

Beth sydd ar gael drwy’r cynllun hwn

Pan fydd eiddo annomestig yn bodloni’r amodau cymhwyster ac yn parhau i wneud hynny, bydd y talwr ardrethi yn cael budd o ryddhad llawn o'r swm o ardrethi busnes a godir tan 31 Mawrth 2035.

Cymhwyster

Bydd eiddo annomestig yn gymwys am y rhyddhad os yw’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel rhwydwaith gwresogi sy’n cyflenwi ynni thermol a gynhyrchir o ffynhonnell carbon isel.

Darganfyddwch fwy am gymhwysedd ar gyfer y cynllun hwn ar wefan Busnes Cymru (gwefan allanol)

Sut i wneud cais

Bydd angen i dalwyr ardrethi wneud cais am y rhyddhad hwn drwy anfon datganiad i gadarnhau eu bod yn bodloni’r amod carbon isel, a bydd gofyn iddynt adnewyddu eu datganiad bob blwyddyn.

Mae diffiniad ffynhonnell carbon isel yn cael ei gydnabod yn eang o fewn y sector rhwydweithiau gwresogi. Disgwylir y bydd gweithredwyr rhwydweithiau gwresogi cymwys yn gallu deall a darparu tystiolaeth ddibynadwy eu bod yn bodloni’r diffiniad hwn.

Os hoffech wneud cais am y rhyddhad hwn, gallwch anfon eich datganiad at BusinessRates@denbighshire.gov.uk.