Ardrethi busnes: Rhyddhad caledi
Gall Cynghorau roi rhyddhad i drethdalwr a fyddai’n dioddef caledi drwy dalu’r bil ardrethi cyfan. Bydd y Llywodraeth yn ad-dalu’r Cyngor â dim ond 75% o’r rhyddhad a ganiateir yn yr amgylchiadau hyn, felly bydd chwarter y gost yn syrthio’n uniongyrchol ar dalwyr Treth Cyngor. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd ceisiadau’n cael eu hystyried.
Fel arfer dim ond pan fydd modd dangos ei fod er lles talwyr treth y cyngor lleol y byddwn yn caniatáu’r rhyddhad hwn.
Sut i ymgeisio
Gallwch lenwi'r ffuflen cais am rhyddhad ohewydd caledi.
Cais ar gyfer rhyddhad caledi (MS Word, 105KB)