Ardrethi busnes: Gostyngiad Trosiannol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun i gynorthwyo i ddiogelu busnesau bach rhag effaith ailbrisiad 2023, gan gyfyngu'r cynnydd yn y symiau sy'n daladwy. Mae'r cynllun wedi'i ddylunio fel a ganlyn.
- Ni fydd unrhyw gynnydd mewn ardrethi taladwy hyd at £300 yn derbyn gostyngiad trosiannol.
- Mae'r gostyngiad trosiannol yn gysylltiedig â'r cyfrif fel y bo ar 1 Ebrill 2023 felly bydd unrhyw newid mewn atebolrwydd e.e. newid mewn meddiannaeth yn terfynu'r gostyngiad o ddyddiad y newid
Bydd gan drethdalwyr cymwys hawl i ostyngiad graddol dros ddwy flynedd fel a ganlyn:
- blwyddyn 1: gostyngiad o 67% yn 2023-24, a;
- blwyddyn 2: gostyngiad o 34% yn 2024-25
- blwyddyn 3: Dim gostyngiad yn 2025-26
Mae'r meini prawf cymhwyso fel a ganlyn:
- mae'n rhaid i'r trethdalwr fod wedi derbyn cynnydd yn y bil blynyddol o dros £300
- mae'n rhaid i'r Eiddo fod wedi'i feddiannu ar 31 Mawrth 2023 a 1 Ebrill 2023
- nid yw gostyngiad trosiannol yn daladwy ar eiddo gwag neu eiddo a feddiannir yn rhannol
- bydd unrhyw newid mewn atebolrwydd megis bod yr eiddo'n mynd yn wag neu newid meddiannydd, yn terfynu'r gostyngiad
Nid oes angen cyflwyno cais ar gyfer y gostyngiad hwn gan y bydd y swm newydd yn cael ei gyfrifo'n awtomatig. Fodd bynnag, os ydych chi'n credu eich bod yn gymwys ond nad ydych wedi derbyn unrhyw ostyngiad ac eich bod eisiau i ni adolygu eich achos cysylltwch â ni ar: ardrethibusnes@sirddinbych.gov.uk.
Mae Gostyngiad Trosiannol yn para am 2 blynedd.
Rhagor o wybodaeth
I wybod mwy am yr Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Trosiannol ar gyfer Ailbrisiad 2023 (gwefan allanol).