Mae’n bwysig sylweddoli’r gwahaniaeth rhwng apelio yn erbyn eich gwerth ardrethol ac apelio’n erbyn y penderfyniad a wneir gan yr adran trethi busnes.
Bydd yr Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) bellach yn darparu amcangyfrifon y Gwerth Trethiannol i drethdalwyr.
Os oes angen amcangyfrif, ewch i wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio i chwilio am asesiad cymharol, neu fel arall, gallwch ofyn am gyngor proffesiynol.
A allaf apelio yn erbyn y gwerth Ardrethol?
Os ydych yn teimlo fod y gwerth ardrethol yn un anghywir, gallwch apelio at Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn am apelio yn erbyn y gwerth ardrethol trwy fynd i dudalen apelio’r ASB (gwefan allanol).
Apelio yn erbyn y penderfyniad a wnaed gan yr adran Trethi Busnes
Os ydych yn anghytuno gyda’n penderfyniad ni o ran eich cyfrifoldeb i dalu, dylech gysylltu â ni yn y lle cyntaf. Yna, os ydych yn dal yn anghytuno, dylech herio’r penderfyniad yng ngwrandawiad atebolrwydd llys yr ynadon.
A oes yn rhaid imi barhau i dalu tra bo’r apêl yn cael ei gynnal?
Oes, mae’n rhaid ichi barhau i dalu’r trethi tra rydych yn aros am ganlyniad wrth apelio un ai yn erbyn y gwerth ardrethol neu’r penderfyniad a wnaed gan yr adran Trethi Busnes. Gall methu â thalu’r trethi hyn achosi gweithrediad adennill.