Caiff ardrethi busnes eu casglu gan Gynghorau lleol ond fe’u telir i Gronfa Genedlaethol. Yna bydd y Llywodraeth Ganolog yn rhoi cyfran i bob ardal yn seiliedig ar nifer yr oedolion yn y boblogaeth leol. Golyga hynny na fydd ardal sydd â nifer cymharol fechan o fusnesau, neu ble mae gwerth eiddo’n gyffredinol isel, dan anfantais oherwydd ei incwm Ardrethi Busnes isel.
Sut bydd fy ardrethi busnes yn cael eu cyfrifo?
Fe gyfrifir y trethi sy’n daladwy ar eiddo drwy luosi’r gwerth trethiannol â’r gyfradd genedlaethol yn y bunt (a elwir yn gyffredin yn ‘buntdal’). Fe’i gosodir ar yr un gyfradd ar draws Cymru gyfan, felly ni all cynghorau lleol osod puntdaliadau gwahanol.
Y lluosydd ardrethol am y flwyddyn ariannol 2024/2025 ydi 0.562
Dod o hyd i werth trethadwy
A allaf apelio yn erbyn y gwerth Ardrethol?
Os ydych yn teimlo fod y gwerth ardrethol yn un anghywir, gallwch apelio at Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Dod o hyd i fanylion cyswllt eich Swyddfa Brisio (gwefan allanol).
Lluosydd ardrethol y flwyddyn flaenorol
Lluosydd ardrethol blaenorol
Blwyddyn ariannol | Lluosydd ardrethol |
2023/2024 |
0.535 |
2022/2023 |
0.535 |
2021/2022 |
0.535 |
2020/2021 |
0.535 |
2019/2020 |
0.526 |
2018/2019 |
0.514 |
2017/2018 |
0.499 |
2016/2017 |
0.486 |
Archwiliadau o daliadau
Yn y gorffennol rydyn ni wedi derbyn ceisiadau gan asiantwyr i ddarparu manylion y taliadau a gwybodaeth arall ar gyfrifon sy’n mynd yn ôl flynyddoedd lawer. Ni all Cyngor Sir Ddinbych ymateb i’r ceisiadau hyn gan y dylai’r asiantwyr ardrethu, yn y rhan fwyaf o achosion, allu cyfrifo taliadau eu cleient yn seiliedig ar y wybodaeth a geir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu gofnodion eu cleientiaid.
Os byddwch yn credu ein bod wedi gwneud camgymeriad efo atebolrwydd eich cleient, gallwch roi manylion llawn i ni yn cynnwys eich cyfrifiadau eich hun ac fe wnawn ni adolygu ac ymateb yn unol â hynny.