Ynglŷn â'r Gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael casgliadau wythnosol Nwyddau Hylendid Amsugnol os oes gan eich aelwyd unrhyw un o’r eitemau canlynol i’w gwaredu:

  • clytiau tafladwy, bagiau clytiau a weips
  • powlenni gwely a leinars
  • padiau anymataliaeth
  • padiau gwely a chadair
  • bagiau colostomi a stoma
  • bagiau cathetr a photeli wrin, a
  • menig plastig a ffedogau untro.

Beth yw 'Nwyddau Hylendid Amsugnol?'

Mae Nwyddau Hylendid Amsugnol yn eitemau a ddefnyddir i amsugno hylifau’r corff a gwastraff megis clytiau, bagiau clytiau a weips, yn ogystal â chynnyrch anymataliaeth i oedolion.

Beth yw'r gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol?

Mae hwn yn wasanaeth casglu am ddim ar draws y sir ar gyfer eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol. Os byddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, byddwn yn casglu’r gwastraff hwn gennych chi bob wythnos.

Gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol: Cadi du

Ar ôl ichi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, fe wnawn ni ddanfon y canlynol ichi:

  • cyflenwad o sachau piws untro i chi eu llenwi â’ch gwastraff AHP,
  • cadi du gyda chaead piws i chi roi eich sachau llawn ynddo i ni eu casglu,
  • set o dagiau 'ail-archebu' - pan fyddwch ar fin rhedeg allan o sachau, clymwch un o’r tagiau hyn i handlen eich cadi, ac fe wnawn ni adael cyflenwad newydd o sachau ar ben, neu wrth ymyl, eich cadi – a
  • llythyr yn cadarnhau'r diwrnod casglu, gyda nodyn atgoffa ynghylch yr hyn y byddwn yn ei gasglu fel rhan o’r gwasanaeth hwn.

Pam ydym ni wedi cyflwyno casgliadau ar gyfer Nwyddau Hylendid Amsugnol?

Gwyddom fod hyd at 20% o’r hyn y mae preswylwyr yn ei roi yn eu biniau du neu sachau pinc ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu yn wastraff Nwyddau Hylendid Amsugnol. Rydym wedi cyflwyno’r gwasanaeth hwn i symud y gwastraff hwn o’r cynwysyddion hynny, i greu mwy o le ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Rydym hefyd yn ystyried ffyrdd o ailgylchu’r nwyddau hylendid amsugnol hynny rydym yn eu casglu gennych. Rydym yn casglu'r gwastraff hwn ar wahân i’ch gwastraff ailgylchu ac na ellir ei ailgylchu ar draws y sir, fel y byddwn yn barod i ddechrau ailgylchu eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol ar unwaith pan fydd gennym gontract â chyfleuster ailgylchu.

Pan fyddwn yn gallu ailgylchu Nwyddau Hylendid Amsugnol, gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch newydd, a allai gynnwys byrddau ffibr a phaneli acwstig ar gyfer lloriau a waliau, ac fel deunydd peirianneg i’w ddefnyddio ar arwynebau ffyrdd.

Sut galla i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol?

Mae'r gwasanaeth yma wedi ail agor ers dydd Llun, 9 Medi 2024.

Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol

Os byddwch yn dewis peidio â chofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu, neu os nad ydych yn gymwys i gofrestru, dylech barhau i roi eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol yn eich cynhwysydd ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Pa fath o Nwyddau Hylendid Amsugnol fyddwch chi'n eu casglu?

Byddwn yn casglu:

  • clytiau tafladwy, bagiau clytiau a weips
  • powlenni gwely a leinars
  • padiau anymataliaeth
  • padiau gwely a chadair
  • bagiau colostomi a stoma
  • bagiau cathetr a photeli wrin, a
  • menig plastig a ffedogau untro.

Ni fyddwn yn casglu:

  • gwastraff clinigol, megis gorchuddion neu rwymynnau â gwaed arnynt; nodwyddau, chwistrellau a chynnyrch miniog eraill,
  • nwyddau mislif megis leinars, tamponau a thyweli,
  • unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu o gartref gan ddefnyddio eich cynwysyddion eraill gan y Cyngor, ac
  • unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu yn eich Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol.

Faint mae'r gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol yn ei gostio?

Mae’r gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol am ddim i breswylwyr sy’n byw yn Sir Ddinbych.

Pa mor aml fyddwch chi'n casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol?

Pan fyddwch wedi cofrestru am y gwasanaeth, byddwn yn anfon llythyr yn cadarnhau eich diwrnod casglu a phryd gallwch ddisgwyl derbyn eich cadi a'ch bagiau porffor. Fe fydd y gwasanaeth yn cychwyn oddeutu 12 wythnos wedi i chi gofrestru. Ni ddylech gysylltu â'r Cyngor i wneud ymholiadau o fewn y cyfnod hwn, fe fydd y Cyngor yn cysylltu gyda chi.

Byddwn yn casglu gwastraff Nwyddau Hylendid Amsugnol o’ch cartref bob wythnos.

Cwestiynau Cyffredin

I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol, darllenwch eich Cwestiynau Cyffredin.