Gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol: Telerau ac amodau

Cymhwysedd

  1. Cymhwysedd
    1. Caiff aelwydydd gyda babanod neu blant mewn clytiau, ac oedolion sy’n defnyddio nwyddau anymataliaeth, gofrestru ar gyfer y casgliadau AHP.
    2. Mae’n rhaid i gyfeiriad yr eiddo a roddir wrth gofrestru ar gyfer y gwasanaeth fod yn brif gartref y sawl sy’n creu’r gwastraff.
    3. Y preswylwyr nad ydynt yn gymwys yw:
      1. y rhai sydd ag ymwelwyr yn creu’r gwastraff AHP, fel wyrion ac wyresau neu berthnasau hŷn nad ydynt yn byw yn yr eiddo, a
      2. gwarchodwyr plant cofrestredig, pobl sy’n berchen ar/yn rheoli meithrinfeydd, cartrefi gofal, cartrefi nyrsio neu ysbytai. Rhaid i fusnesau drefnu casgliad gwastraff masnachol ar wahân ar gyfer eu gwastraff AHP.

Eich Gwasanaeth AHP

  1. Eich Gwasanaeth AHP
    1. Bydd Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn casglu gwastraff AHP o gartrefi preswylwyr bob wythnos, unwaith y byddant wedi cofrestru i dderbyn y gwasanaeth.
    2. Wedi cofrestru, bydd y gwasanaeth yn cychwyn ar ôl lleiafswm o 12 wythnos.
    3. Bydd CSDd yn danfon yr eitemau canlynol i’r cartref cofrestredig:
      1. cadi du gyda chaead piws,
      2. cyflenwad o sachau piws untro (i’w rhoi yn y cadi),
      3. set o dagiau ‘ail-archebu’, a
      4. llythyr yn cadarnhau’r diwrnod casglu, pryd bydd y gwasanaeth yn cychwyn a nodyn atoffa ynghylch hyr hyn y byddwn yn ei gasglu fel rhan o’r gwasanaeth hwn.
    4. Mae’r mathau o wastraff AHP y bydd CSDd yn ei gasglu fel rhan o’r gwasanaeth casgliadau yn cynnwys:
      1. clytiau, bagiau clytiau a weips,
      2. padelli gwely a phadiau leinio tafladwy,
      3. padiau anymataliaeth,
      4. padiau gwelyau a chadeiriau,
      5. bagiau colostomi a stoma,
      6. bagiau cathetr a photeli wrin, a
      7. menig plastig a ffedogau tafladwy
    5. Ni fydd CSDd yn casglu’r eitemau canlynol fel rhan o’r gwasanaeth casgliadau AHP:
      1. gwastraff clinigol, fel gorchuddion neu rwymau sydd wedi’u halogi â gwaed, nodwyddau, chwistrelli a nwyddau miniog eraill,
      2. nwyddau hylendid, fel padiau leinio, tamponau a thyweli mislif,
      3. unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu o gartref gan ddefnyddio cynwysyddion eraill a ddarperir gan y Cyngor, ac
      4. unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu mewn Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref a reolir gan y Cyngor.
    6. Dylai preswylwyr cofrestredig:
      1. roi dim ond yr eitemau cywir yn eu sachau piws untro,
      2. glymu eu sachau piws yn dynn, yna eu rhoi yn eu cadi du,
      3. gau caead eu cadi,
      4. roi eu cadi yn eu man casglu cyn 6:30am ar eu diwrnod casglu, a
      5. chasglu eu cadi o’u man casglu unwaith y byddwn wedi casglu ei gynnwys.
    7. Bydd CSDd yn parhau i ddarparu casgliadau â chymorth i breswylwyr sy’n derbyn y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd.
    8. Mae cofrestriad yn para am flwyddyn. Bydd CSDd yn cysylltu â’r rhai cofrestredig cyn diwedd eu blwyddyn cofrestriad i ofyn a hoffent gofrestru am flwyddyn arall, ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf y gwasanaeth.

Torri'r Amodau

  1. Torri’r Amodau
    1. Os bydd defnyddiwr cofrestredig yn rhoi eitemau yn eu cadi na ddylent fod yno, bydd CSDd yn ystyried hyn yn:
      1. Dramgwydd cyntaf. Ni fydd CSDd yn casglu ei gynnwys. Bydd CSDd yn:
        1. danfon taflen i’r preswylydd cofrestredig i’w hatgoffa am beth y cânt ac na chânt ei roi yn eu cadi, ac yn
        2. rhoi sticer neu dag ar eu cadi yn gofyn iddynt sortio ei gynnwys, er mwyn iddynt allu rhoi eu cadi wedi’i lenwi’n gywir allan eto ar eu diwrnod casglu nesaf.
      2. Ail dramgwydd. Ni fydd CSDd yn casglu ei gynnwys. Bydd CSDd yn:
        1. danfon taflen arall i’r preswylydd cofrestredig ac yn
        2. rhoi sticer neu dag arall ar eu cadi.
      3. Trydydd tramgwydd. Ni fydd CSDd yn casglu ei gynnwys. Bydd CSDd yn:
        1. canslo cofrestriad y preswylydd ar gyfer y gwasanaeth.
    2. Os bydd preswylydd cofrestredig yn defnyddio’r gwasanaeth i gael gwared ar unrhyw beth heblaw’r hyn a fwriedir iddo ei gynnwys, bydd CSDd yn canslo eu cofrestriad.
    3. Os bydd preswylydd cofrestredig yn methu â rhoi gwybodaeth wir a chywir wrth gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, bydd CSDd yn canslo eu cofrestriad.
    4. Os nad yw preswylydd cofrestredig yn defnyddio’r gwasanaeth am dri chasgliad yn olynol, bydd CSDd yn canslo eu cofrestriad. Os hoffai’r preswylydd barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth, bydd angen iddynt gofrestru drachefn.
    5. Os bydd angen i breswylydd cofrestredig atal eu cofrestriad i’r gwasanaeth ar unrhyw adeg, am unrhyw reswm – er enghraifft, os ydyn nhw’n mynd ar wyliau am gyfnod estynedig – dylent gysylltu â CSDd.