Beth ddylwn i ei wneud â phapurau siocled, fferins a melysion?
Nid oes posib' ailgylchu papurau siocled, fferins a melysion.
Gallwch waredu papurau siocled, fferins a melysion yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:
Gwasanaeth Trolibocs
-
Bin du ar olwynion
-
Bin glas ar olwynion
-
Gwasanaeth bagiau
-
Bag du amldro a sach binc
-
Gwasanaeth biniau cymunedol
-
Bin du 4 olwyn
-
Canllawiau
O bryd i’w gilydd, bydd gwneuthurwyr cynnyrch sy’n anodd eu hailgylchu’n gweithio gyda chwmni o’r enw Terracycle i gynnig mannau gollwng lleol neu labeli postio ar gyfer eu cynnyrch.
Gallwch ddarganfod a yw eitem yn cael ei dderbyn a lleoliad eich man gollwng agosaf drwy ymweld â gwefan Terracycle (gwefan allanol). Mae’r lleoliadau hyn fel arfer yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr unigol ac yn amodol ar newid.
Mwy o wybodaeth
Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.
Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.
Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.