Beth ddylwn i ei wneud â phapur lapio?
Nid oes posib' ailgylchu papur lapio sydd â glityr a phlastig arno.
Gallwch waredu papur lapio sydd â glityr a phlastig arno yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:
Gwasanaeth Trolibocs
-
Bin du ar olwynion
-
Bin glas ar olwynion
-
Gwasanaeth bagiau
-
Bag du amldro a sach binc
-
Gwasanaeth biniau cymunedol
-
Bin du 4 olwyn
-
Gellir ailgylchu papur lapio plaen ar ôl tynnu unrhyw selotep.
Gallwch ailgylchu bapur lapio plaen yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:
Gwasanaeth Trolibocs
-
Bocs uchaf y trolibocs, gyda chaead glas.
-
Gwasanaeth bagiau
-
y bag glas tywyll amldro
-
Gwasanaeth biniau cymunedol
-
y bin du gyda sticer glas tywyll.
-
Mwy o wybodaeth
Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.
Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.
Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.