Beth ddylwn i ei wneud â phacedi bwyd cath?

Nid oes posib' ailgylchu pacedi bwyd cath gan eu bod wedi’u gwneud o ddeunyddiau cymysg.

Gallwch waredu pacedi bwyd cath yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol

Canllawiau

TerraCycle (gwefan allanol)

O bryd i’w gilydd, bydd gwneuthurwyr cynnyrch sy’n anodd eu hailgylchu’n gweithio gyda chwmni o’r enw Terracycle i gynnig mannau gollwng lleol neu labeli postio ar gyfer eu cynnyrch.

Gallwch ddarganfod a yw eitem yn cael ei dderbyn a lleoliad eich man gollwng agosaf drwy ymweld â gwefan Terracycle (gwefan allanol). Mae’r lleoliadau hyn fel arfer yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr unigol ac yn amodol ar newid.

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.