Beth ddylwn i ei wneud â lensys cyffwrdd?

Gallwch waredu lensys cyffwrdd yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol

Canllawiau

Gallwch ailgylchu hen lensys cyffwrdd yn Boots Opticians neu eu rhoi yn eich bin gwastraff cyffredinol du neu sach binc.

TerraCycle (gwefan allanol)

O bryd i’w gilydd, bydd gwneuthurwyr cynnyrch sy’n anodd eu hailgylchu’n gweithio gyda chwmni o’r enw Terracycle i gynnig mannau gollwng lleol neu labeli postio ar gyfer eu cynnyrch.

Gallwch ddarganfod a yw eitem yn cael ei dderbyn a lleoliad eich man gollwng agosaf drwy ymweld â gwefan Terracycle (gwefan allanol). Mae’r lleoliadau hyn fel arfer yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr unigol ac yn amodol ar newid.

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.