Beth ddylwn i ei wneud â ffelt toeau

Nid oes posib’ ailgylchu ffelt toeau.

Gallwch waredu ffelt toeau yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol

Canllawiau

Gallwch roi ychydig ohono / toriadau achlysurol yn y cynhwysydd priodol ar gyfer eich gwasanaeth casglu ailgylchu a gwastraff, cyhyd â bod y darnau i gyd o fewn y cynhwysydd a bod modd cau caead y bin neu glymu’r bag.

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod digon o le yn eich bin/bag ar gyfer gwastraff cyffredinol eich cartref gan nad ydym ni’n derbyn gwastraff ar yr ochr.

Fel arall, ewch ag o i’ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.