Beth ddylwn i ei wneud â dodrefn?
Gallwch roi eich dodrefn am ddim i bobl ar wefannau fel Freecycle (gwefan allanol) a Freegle (gwefan allanol) neu eu gwerthu ar-lein ar eBay neu Marketplace ar Facebook (gwefan allanol).
Fel arall, gallwch fynd â dodrefn sydd ddim yn addas i’w ddefnyddio eto i’ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.
Neu, gallwch drefnu casgliad eitem swmpus am bris.
Siop Ailddefnyddio: Parc Gwastraff ac Ailgylchu'r Rhyl
Mae Siop ‘Ailddefnyddio’, wedi’i lleoli ym Mharc Ailgylchu gwastraff y Cartref y Rhyl, bellach ar agor 7 diwrnod yr wythnos.
Gellir rhoi bywyd newydd i hen ddodrefn ac eitemau trydanol sy’n gweithio, yn ogystal â dillad o ansawdd uchel neu eitemau cartref a bric-a-brac eraill drwy gyfrannu eich eitemau diangen i’r Siop Ailddefnyddio.
Mae man cyfrannu ar agor 7 niwrnod yr wythnos yn y tri Pharc Ailgylchu Gwastraff y Cartref.