Beth ddylwn i ei wneud â darnau car?
Peidiwch â rhoi darnau car yn unrhyw gynhwysydd gwastraff domestig gan eu bod yn gallu achosi difrod i’r cerbydau casglu gwastraff.
Nid ydym yn derbyn darnau ceir yn ein Parciau Ailgylchu a Gwastraff.
Cysylltwch â’ch garej leol neu gasglwr gwastraff preifat.
Gwiriwch fod gan eich gweithredwr dewisol drwydded i dderbyn/cludo eich gwastraff a chadwch gofnod o’ch trafodion (megis derbynneb).
Gallwch wirio a yw’r contractwr yn gludydd gwastraff, brocer neu ddeliwr trwyddedig drwy ymweld â gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru (gwefan allanol).
Gofynnwch i’r gweithredwr i ble mae eich gwastraff yn mynd a chadwch gofnodion (megis manylion eu gwefan/rhif ffôn a rhif cofrestru’r cerbyd). Peidiwch â chaniatáu i gontractwr preifat gymryd neu dderbyn eich gwastraff oni bai eich bod yn fodlon ei fod yn cael ei waredu mewn modd cyfrifol.