Beth ddylwn i ei wneud â chwaraewyr DVDs/Blu-ray?
Gallwn gasglu chwaraewyr DVD a Blu Ray nad ydynt yn fwy na maint papur A4 gan ddefnyddio’r cynhwysydd priodol ar gyfer eich gwasanaeth casgliadau ailgylchu a gwastraff, neu fe allwch chi fynd i Barc Ailgylchu a Gwastraff
Gwasanaeth Trolibocs
-
Rhowch eich eitemau trydanol bach yn rhydd ar ben eich Trolibocs i'w casglu.
-
Gwasanaeth bagiau
-
Rhowch eich eitemau trydanol bach yn rhydd ar dop un o'ch bagiau y gellir eu hailddefnyddio
-
Gwasanaeth biniau cymunedol
-
Ar y llawr, wrth y biniau cymunedol
-
Gall chwaraewyr DVD a Blu Ray sy’n fwy na phapur A4 fynd i’r Parc Ailgylchu a Gwastraff.
Canllawiau
Mae’n rhaid i fanwerthwyr nwyddau trydanol ddarparu ffordd i chi i waredu hen gyfarpar trydanol ac electronig y cartref pan fyddwch yn prynu fersiwn newydd o’r un eitem. Mae hyn yn cynnwys manwerthwyr ar-lein.
Mae rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau manwerthwyr a dosbarthwyr ar wefan GOV.UK (gwefan allanol).
Fel arall, gellir ailgylchu’r rhain gydag eitemau trydanol mewn Canolfannau Ailgylchu. Os ydynt yn gweithio, efallai bydd eich eitemau yn addas i gael eu hailddefnyddio.
Siop Ailddefnyddio: Parc Gwastraff ac Ailgylchu'r Rhyl
Mae Siop ‘Ailddefnyddio’, wedi’i lleoli ym Mharc Ailgylchu gwastraff y Cartref y Rhyl, bellach ar agor 7 diwrnod yr wythnos.
Gellir rhoi bywyd newydd i hen ddodrefn ac eitemau trydanol sy’n gweithio, yn ogystal â dillad o ansawdd uchel neu eitemau cartref a bric-a-brac eraill drwy gyfrannu eich eitemau diangen i’r Siop Ailddefnyddio.
Mae man cyfrannu ar agor 7 niwrnod yr wythnos yn y tri Pharc Ailgylchu Gwastraff y Cartref.