Beth ddylwn i ei wneud ag amlenni?

Symbol ailgylchu papur a cherdyn cymysg

Gallwch waredu amlenni yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol

Canllawiau

Gall amlenni sydd â ffenest blastig hefyd gael eu hailgylchu.

Oeddech chi’n gwybod bod ansawdd gwastraff ailgylchu’n gallu cael ei wella os yw’r preswylydd yn tynnu’r ffenestri plastig i gyd, neu rywfaint ohonynt? Mae hyn o fudd i’r amgylchedd.

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.